Mae ffilm RESILIENCE yn rhaglen ddogfen awr o hyd sy'n ymchwilio i wyddoniaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a chychwyn mudiad newydd i drin ac atal Straen Gwenwynig. Erbyn hyn, deellir mai hwn yw un o brif achosion popeth sy'n amrywio o ymddygiadau sy'n niweidio iechyd (e.e. camddefnyddio sylweddau, ymddygiad troseddol) i faterion iechyd meddwl a lles (gan gynnwys gorbryder ac achosion o iselder) hyd at salwch corfforol gan gynnwys clefyd y galon, canser a hyd yn oed marwolaeth cyn pryd. Gall profiadau hynod o ddirdynnol yn ystod plentyndod newid datblygiad yr ymennydd a chael effeithiau gydol oes ar blant, gan effeithio ar eu hiechyd a'u hymddygiad trwy gydol cwrs bywyd. Er bod effeithiau ehangach tlodi yn gwaethygu'r risg, nid oes unrhyw ran o'r gymdeithas yn ddiogel rhag hyn.
Mae RESILIENCE, fodd bynnag, yn croniclo sefydlu mudiad sy'n benderfynol o frwydro'n ôl - nid yw ACE’s yn dynged i ni ac ni ddylent fod. Mae arloeswyr ym meysydd Pediatreg, Addysg a Lles Cymdeithasol yn defnyddio gwyddoniaeth flaengar a therapïau sydd wedi cael eu profi yn y maes i atal straen gwenwynig ac i amddiffyn plant rhag ei effeithiau - a gwaddol tywyll plentyndod na fyddai unrhyw blentyn yn ei ddewis.
Dewch i ni gael ein hysbrydoli gyda'n gilydd i barhau i ysgrifennu dyfodol newydd!
Cynhelir y dangosiad rhithwir hwn ar ddydd Mercher 8 Gorffennaf am 6yh trwy gyfrwng dolen Vimeo, ac yn dilyn hynny, cynhelir sesiwn holi ac ateb trwy gyfrwng YouTube a fydd yn cychwyn tua 7yh.
Mae panelwyr y sesiwn holi ac ateb yn cynnwys:
Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Canolfan Cymorth ACE Cymru
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Lindsey Watkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Millbrook, Casnewydd
Meinir Williams Jones, Barnardo’s (Gogledd Cymru)
Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Heddlu De Cymru
Bydd pobl sydd wedi cofrestru yn derbyn dolen a chyfrinair am 5yh ar yr 8fed o Orffennaf, un awr cyn cychwyn dangos y ffilm. Bydd y ddolen a'r cyfrinair yn weithredol o 6yh ymlaen.
Os na fyddwch chi wedi derbyn yr e-bost erbyn 5yh, edrychwch yn eich ffolder spam. Os byddwch chi'n dal yn methu canfod yr e-bost, e-bostiwch screenings@dartmouthfilms.com gan nodi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llinell y testun, ac anfonnir y ddolen a'r cyfrinair atoch chi.