Mae Rhaglen Gwirfoddolwyr Dadansoddol y Llywodraeth yn trefnu lleoliadau byr (hyd at bum diwrnod) i ddadansoddwyr proffesiynol o bob rhan o'r llywodraeth ddarparu cymorth dadansoddi, yn rhad ac am ddim, i gyrff y sector gwirfoddol. Y llynedd, darparodd y cynllun dros 90 o ddadansoddwyr ar gyfer cyrff y trydydd sector.
Beth allai dadansoddwr ei wneud i chi?
Mae dadansoddwyr gwirfoddol yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac mae modd eu paru ag ymchwilwyr cymdeithasol, ystadegwyr, economegwyr, ymchwilwyr gweithredol neu wyddonwyr data. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gall dadansoddwr ei wneud (ond mae cymaint mwy!):
- Helpu i ddylunio, cynnal a /neu ddadansoddi arolwg
- Dadansoddi data i wella dealltwriaeth o'ch gwasanaethau/buddiolwyr/gwirfoddolwyr
- Rhoi cyngor ar gasglu gwybodaeth er mwyn cyflawni eich gweithgarwch mewn ffordd well
- Gwella sut rydych yn delio â chyfrei data mawr drwy argymell ffyrdd mwy effeithlon o gofnodi, storio a defnyddio data
- Dod o hyd i ddata am bwnc penodol a dangos sut gall eich sefydliad ddehongli a defnyddio'r wybodaeth hon
- Dadansoddi cost a budd prosiectau/penderfyniadau cyfredol neu bosibl ar gyfer y dyfodol
- Mesur effaith prosiect neu raglen a/neu gynnal asesiad gwerth am arian arnynt
- Darogan a dadansoddi economaidd ehangach i lywio penderfyniadau buddsoddi
I weld mwy o enghreifftiau, gan gynnwys astudiaethau achos o flynyddoedd blaenorol, ewch i'r ddolen isod.
Dyma gyfle gwych i gyrff y sector gwirfoddol elwa ar yr arbenigedd dadansoddi o fewn y llywodraeth, yn rhad ac am ddim, a helpu i greu cysylltiadau cryfach rhwng y llywodraeth a'r sector gwirfoddol.
Ydych chi'n meddwl y gallai eich sefydliad elwa ar y cynllun hwn? Gwnewch gais erbyn dydd Mercher 13 Tachwedd 2019.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://gss.civilservice.gov.uk/careers/analytical-volunteer-programme/
Neu cysylltwch â AnalyticalVolunteer(at)gmail.com gydag unrhyw ymholiadau.