Mae Tom a Dylan wedi penderfynu ymgymryd â rhediad pellter can milltir, a hoffent achub ar y cyfle hwn i godi arian at achos da!
Wrth ystyried elusennau roeddent yn gwybod eu bod am ddewis rhywbeth yr oedd y ddau ohonyn nhw'n angerddol amdano. Iechyd meddwl oedd yr opsiwn amlwg, felly penderfynodd y ddau ar godi arian ar gyfer yr elusen iechyd meddwl leol Cymdeithas Ponthafren.
Mae Ponthafren yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r rheini sydd yng Ngogledd Powys, ac sy'n gwella ar ôl trallod meddwl. Maent yn gwneud hynny trwy gynnig cwnsela, cyrsiau sgiliau bywyd, cymorth adfer un i un a mwy, o'u dwy ganolfan yn y Trallwng a'r Drenewydd. Maent hefyd yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau sy'n darparu cymuned, a chymdeithasu i'r rhai sydd ei angen.
"Byddem wrth ein bodd yn cefnogi Cymdeithas Ponthafren oherwydd ein bod yn angerddol am iechyd meddwl a lles. Rydym yn deall pwysigrwydd unrhyw elusen sy'n darparu help hanfodol i'r rhai sy'n gwella o drallod meddwl, ac os ydym mewn unrhyw sefyllfa i helpu, mae'n bleser gennym!"
Felly os hoffech chi helpu Tom a Dylan i godi rhywfaint o arian, codi rhywfaint o ymwybyddiaeth a gwneud gwahaniaeth go iawn i aelodau o'ch cymuned a allai fod yn ei chael hi'n anodd, byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw un o'ch rhoddion.