Pleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd gyntaf y wobr Gofalwn Cymru

Mae’r wobr yn rhan o’r Gwobrau, gwobrau sy’n cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

Pleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd gyntaf y wobr Gofalwn Cymru

 

Mae’r bleidlais bellach ar agor i ddewis enillydd ar gyfer y wobr Gofalwn Cymru gyntaf.

 

Mae’r wobr yn rhan o’r Gwobrau, gwobrau sy’n cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

 

  • Mae’r wobr Gofalwn Cymru yn newydd ar gyfer 2020 a dyma’r tro cyntaf i’r Gwobrau cydnabod a dathlu gweithwyr gofal unigol.
  • Mae’r wobr wedi’i hanelu tuag at weithwyr gofal neu wirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac yn eu helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Enwebwyd mwy na 70 o weithwyr gofal ar gyfer y wobr a bu panel o feirniaid yn llywio’r enwebeion i’r pump terfynol.

 

Rydyn ni nawr yn gofyn i aelodau’r cyhoedd i bleidleisio am y gweithiwr gofal y maen nhw’n credu dylai ennill y wobr Gofalwn Cymru gyntaf.

 

Bydd y bleidlais ar agor tan ddydd Gwener, 16 Hydref 2020 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn seremoni wobrwyo rhithwir y Gwobrau ar ddydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r pum gweithiwr gofal sydd wedi cael eu dewis gan ein panel o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol y Wobr gyntaf ar gyfer gweithwyr gofal unigol.

“Rydyn ni’n gwybod bod gofal rhagorol yn cael ei darparu ar draws Cymru a bod llawer o weithwyr yn mynd y tu hwnt i’w ddyletswyddau.

“Mae’r pum person hyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn adlewyrchu’r ehangder o ofal eithriadol sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru a hoffwn i’u longyfarch i gyd am gyrraedd y rownd derfynol.

“Bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor tan 16 Hydref, felly cymerwch ran trwy bleidleisio a’n helpu ni i ddewis pa un o’r gweithwyr gofal gwych hyn y dylid ei goroni fel enillydd gyntaf-erioed y wobr Gofalwn Cymru.”

 

Am fwy o wybodaeth am y pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac i gymryd rhan yn y bleidlais gyhoeddus, ewch i:

 

gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/y-gwobrau-2020

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity