Mae PAVO’n cefnogi sefydliadau’r sector gwirfoddol, ac yn eu helpu i wella bywydau pobl. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl dros y flwyddyn ddiwethaf mewn rôl wirfoddol, beth am ei enwebu ar gyfer gwobr? www.pavo.org.uk/help-for-organisations/volunteers/powys-volunteer-of-the-year-awards.html
Meddai Carl Cooper, Prif Weithredwr PAVO, “Mae Gwirfoddolwyr Powys erioed wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i lesiant pobl a chymunedau, ac i gyfoethogi gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r flwyddyn aeth heibio wedi gwneud hyn yn fwy amlwg, ac wedi dangos taw gwirfoddolwyr yn aml iawn sydd ar flaen y gad wrth gadw pobl yn ddiogel, yn iawn ac yn iachus. Mae’r bartneriaeth gryfach rhwng y sector gwirfoddol, y Cyngor Sir a’r Bwrdd Iechyd wedi galluogi’r cyraeddiadau anhygoel sy’n parhau i geisio mynd i’r afael â thrafferthion pandemig byd-eang. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr am eu holl wasanaeth hael ac anhunanol i eraill.”
Ychydig iawn o’r 3000+ o sefydliadau gwirfoddol ym Mhowys fyddai’n gallu gweithredu heb eu hymddiriedolwyr gwirfoddol, swyddogion a gweithwyr. Mae gwirfoddolwyr yn rhan annatod o gymunedau Powys, ac yn gwneud gwahaniaeth trwy yrru, coginio, sgwrsio, cludo eitemau hanfodol, darparu sesiynau llesiant ar-lein a gofalu nad oes unrhyw un yn cael ei anghofio. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gwneud gwaith gwerthfawr wrth godi arian mewn ffyrdd arloesol, hyn yn oed yn ystod cyfnod Covid.
Ymgyrch blynyddol yw Wythnos Gwirfoddolwyr, a sefydlwyd ym 1984, sy’n cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr i’w cymunedau bob dydd. Eleni mae’r diolchiadau i’n gwirfoddolwyr yn dod o waelod ein calonnau.
Yn ystod yr wythnos, bydd PAVO’n rhannu negeseuon i ddiolch i wirfoddolwyr ac i ddathlu grym gwirfoddoli er mwyn dod â chymunedau ynghyd, a bod yno pan fo angen.
Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru’n dangos yr ystod o gyfleoedd gwirfoddol sydd ar gael ar hyd a lled Powys a Chymru. Mae’r cyfleoedd ar gael trwy ymweld â: www.volunteering-wales.net.
Hefyd mae swyddogion Canolfan Gwirfoddoli Powys ar gael i roi cefnogaeth os oes gan rywun ddiddordeb mewn gwirfoddoli.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Claire Sterry, Canolfan Gwirfoddoli Powys, volunteering@pavo.org.uk
i ddysgu mwy am Wythnos Gwirfoddolwyr, ewch i: www.wcva.cymru
Dilynwch: @VolWales neu #VolunteersWeek.