Mae'r Gronfa Adfer Sector Gwirfoddol bellach ar AGOR!

Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan CGGC yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r pandemig.

Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol nawr ar agor

Cyhoeddwyd : 17/08/20 | Categorïau: Cyllid,

Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan CGGC yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r pandemig.

Wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau symud a phobl Cymru yn symud ymlaen, mae angen i’r cyllid ymateb i heriau newydd.

Er bod y cyfyngiadau cymdeithasol yn llacio, mae llawer o bobl mewn sefyllfaoedd o argyfwng o hyd ac angen cymorth brys. Bydd Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF) yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Gwnaeth llawer o gymunedau ddioddef yn anghymesurol; felly, mae angen cymryd camau i sicrhau adferiad teg a chyfiawn. Bydd y cyllid hefyd yn cyflwyno’r adnoddau i’r Trydydd Sector ymwreiddio arferion diogel er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.

BETH FYDD Y GRANTIAU’N CEFNOGI

Bydd grantiau’n cefnogi mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio ar raddfa gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru, a gallant fod rhwng £10,000 – £100,000. Gallwn ystyried ceisiadau y tu allan i’r amrediad hwn, ond cysylltwch â ni’n gyntaf ar vsrf(at)wcva.cymru fel y gallwn ni drafod.

Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n bennaf ar gyllid refeniw; fodd bynnag, gall eich cais am gyllid gynnwys costau ar gyfer prynu cyfarpar ‘cyfalaf’ llai o faint, gan gynnwys defnyddiau traul (er enghraifft, cyfarpar diogelu personol, sgriniau ac ati).

Er mwyn ceisio am arian, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas WCVAs (PCA). Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gydag PCA, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch defnyddiwr a’ch cyfrinair newydd ar y sgrin gartref.

Gall mudiadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan: https://map.wcva.cymru

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hon.

BETH AM GRONFA ARGYFWYNG Y GWASANAETHAU GWIRFODDOL?

Cronfa Llywodraeth Cymru oedd y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF) a oedd yn rhedeg o Ebrill i Awst 2020. Ei nod oedd helpu mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y rheng flaen yn erbyn y pandemig i barhau â’u gwaith hanfodol.

Yn ystod y 15 o wythnosau roedd VSEF ar waith, dyfarnodd bron £7.5 miliwn mewn ymateb i geisiadau grant brys. Mae’r gweithgarwch a gyllidwyd gan VSEF wedi helpu’r sector i gynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ledled Cymru mewn ymateb i COVID-19, a rhagwelir y bydd yn ymgysylltu â bron 6,000 o wirfoddolwyr ac yn cynorthwyo dros 700,000 o fuddiolwyr yn y misoedd i ddod.

Mae gwaith mudiadau gwirfoddol yn ystod y pedwar mis diwethaf wedi bod yn syfrdanol ac yn amhrisiadwy, gan daflu rhaff hanfodol i gymunedau, mynd i’r afael ag ynysu a gwella cydlyniant cymunedol.

Darllenwch enghreifftiau o weithgareddau a gyllidwyd drwy VSEF yma.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity