Yn ystod yr wythnos arbennig hon, caiff mudiadau gwirfoddol eu hannog i ddiolch i’w gwirfoddolwyr.
Dechreuodd ymgyrch Wythnos y Gwirfoddolwyr yn 1984, sy’n golygu y byddwn yn dweud ‘diolch yn fawr’ yn ffurfiol wrth wirfoddolwyr am y 37ain flwyddyn eleni.
Eleni, mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn digwydd yn ystod argyfwng, lle mae pandemig byd-eang yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau, ac y mae ein cymdogion, aelodau’r gymuned a gwirfoddolwyr lleol wedi dod yn bwysicach nag erioed er mwyn cefnogi’r rheini sydd mewn angen.
Eleni, rydym ni’n meddwl ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr, yn ystod yr argyfwng hwn ac ym mhob rhan o’n bywydau.
Eleni, bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rannu straeon gwirfoddoli – gan amlygu'r pethau anhygoel mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Byddem wrth ein bodd yn clywed straeon gan wirfoddolwyr ar draws Powys y byddwn yn eu rhannu yn ein cylchlythyrau ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Gallwch anfon stori wirfoddoli atom trwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon.
Fel arall gallwch chi lawrlwytho'r ffurflen yma a'i hanfon trwy e-bost i volunteering(at)pavo.org.uk
Mae mwy o wybodaeth ac adnoddau i sefydliadau i'w gweld yma.