Mae Tîm Ymateb Brys y Sector Cymunedol (C-SERT) a PAVO wedi cydweithio i ddosbarthu grantiau bach i helpu cymunedau i ymateb i argyfwng Covid-19. Daw Cronfa Argyfwng C-SERT o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (ICF), a rennir gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB).
Un o'r sefydliadau cymunedol sydd wedi elwa yw Trafnidiaeth Gymunedol Llanwrtyd sy'n darparu ystod o wasanaethau trafnidiaeth a gwirfoddol yn Llanwrtyd a'r ardal.
Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau, Laura Burns:
“Ers i ni orfod canslo ein holl wasanaethau siopwyr rheolaidd oherwydd y pandemig, rydym wedi addasu ein gwasanaethau, a bellach yn cynnig gwasanaeth casglu a dosbarthu siopa i’n haelodau bregus sy’n ynysu. Wedi'i ymgorffori yn hyn hefyd yw gwasanaeth dosbarthu presgripsiynau. Rydym hefyd yn cynnal gwasanaethau cludiant i aelodau sydd angen teithiau i apwyntiadau meddygol hanfodol, a theithiau siopa i'r rhai nad oes angen eu hynysu.
Rydym yn edrych ar ffyrdd i helpu pawb yn y gymuned yn gyson, a sut orau i addasu ein gwasanaeth i gyd-fynd â'u hanghenion yn yr amseroedd digynsail hyn. Gyda chymorth yr arian grant, gallwn gynnig help i'r gymuned yn rhad ac am ddim.
Mae ein gwirfoddolwyr rhyfeddol yn mynd y tu hwnt i hynny yn y cyfnod anodd hwn. Yn y lluniau mae John, un o'n gwirfoddolwyr, yn danfon siopa i Susan, un o'n haelodau bregus. Mae John hefyd yn dosbarthu siopa i nifer o gymdogion Susan, mae rhai wedi galw'r gwasanaeth yn achubiaeth, gan nad ydyn nhw'n defnyddio cyfrifiaduron ac felly ddim yn gallu cyrchu gwasanaethau siopa ar-lein.”