Mae gwefan newydd Deall Lleoedd Cymreig ar-lein ac yn barod i'w defnyddio

Mae Deall Lleoedd Cymru yn cyflwyno gwybodaeth am economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru, a hynny ar ffurf hylaw a hawdd.

Beth sydd ar y wefan?

 

Mae Deall Lleoedd Cymru yn cyflwyno gwybodaeth am economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru, a hynny ar ffurf hylaw a hawdd. Er bod gwefannau data eraill yn cyflwyno gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol, mae Deall Lleoedd Cymru yn caniatáu i bobl ddadansoddi ystadegau ar gyfer pob lle yng Nghymru lle mae mwy na 2,000 o drigolion.

Mae'r ystadegau'n darparu gwybodaeth am ystod eang o bynciau gan gynnwys nifer y lleoedd mewn ysgolion, siopau ac elusennau yn yr ardal, cyflogaeth, pellteroedd teithio, hunaniaeth genedlaethol, a nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn ogystal ag archwilio data am leoedd unigol, gall ymwelwyr i'r wefan gymharu trefi a dysgu am berthnasau eu lle nhw â threfi yn yr ardal gyfagos.

Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi'i gontractio gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK Trust i reoli prosiect Deall Lleoedd Cymru. Mae'r wefan wedi'i chreu gan dîm contract a arweinir gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) Prifysgol Caerdydd gyda chymorth gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol/the Centre for Local Economic Strategies ym Manceinion.

Bydd data pellach yn dod yn 2020...


http://www.understandingwelshplaces.wales/en/  

http://understandingwelshplaces.wales/cy/  

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity