MAE CYNLLUN GRANTIAU IECHYD BACH NAWR YN FYW

Cynllun Grantiau Bach i hybu iechyd a lles 2020-2021

Bwrdd Iechyd Lleol Powys sy’n ariannu’r Cynllun Grantiau Bach Iechyd. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n gweinyddu’r cynllun, ar ran yr arianwyr.

Nod y Cynllun Grantiau Bach Iechyd yw annog grwpiau cymunedol a chymunedau buddiant i wneud gweithgareddau sy’n cefnogi blaenoriaethau strategol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran: Llesiant https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/section/2

Dyma enghreifftiau o weithgareddau posibl:

  • Gwaith atal / hybu iechyd
  • Hybu a chynnal annibyniaeth

Fe fydd y Cynllun Grantiau Bach Iechyd yn darparu cronfeydd i alluogi grwpiau’r sector gwirfoddol, cymunedau a chymunedau buddiant i brynu offer a/neu i sefydlu / estyn neu gynnal gweithgareddau arloesol ar raddfa fach sy’n rhoi sylw i’r amcanion penodol o ran iechyd a llesiant a nodir uchod.

Mae dyfarniadau o £200 i £1,500 ar gael i sefydliadau sy’n bodloni’r meini prawf o ran cymhwysedd ac o ran y grant.

 

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais am y grant:

  1. Fod yn aelodau o PAVO*
  2. Bod â dogfen lywodraethu
  3. Bod â chyfrif banc
  4. Dangos gallu i reoli grant
  5. Dangos bod ganddynt y polisïau a’r yswiriannau perthnasol ar waith
  6. Dangos bod y grant yn eu galluogi i gyflawni nodau sy’n cynnwys iechyd a diogelwch,
  7. Rhoi sylw i un neu fwy o’r blaenoriaethau ariannu a bod â thystiolaeth o angen

*Os nad yw’ch sefydliad yn aelod o PAVO ar hyn o bryd, ond yn teimlo’ch bod chi’n gymwys i wneud cais, yna dilynwch y ddolen isod: https://www.pavo.org.uk/cy/cefndir-pavo/ymaelodi-a-pavo.html 

neu cysylltwch â swyddfa PAVO ar 01597 822191 i dderbyn ffurflen aelodaeth.

Fe fydd pob sefydliad a fydd yn gwneud cais yn cael cynnig cymorth Swyddog Datblygu PAVO i’w cefnogi â’u cais.

 

MEINI PRAWF Y GRANT

Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n rhoi sylw i un neu fwy o’r amcanion a ganlyn:

1.1      Gwneud gweithgareddau hamdden ac adloniant yn fwy hygyrch i bobl hŷn

1.2      Gweithio mewn partneriaeth â chymunedau ac asiantaethau eraill i gynyddu’r opsiynau ar gyfer gweithgarwch corfforol yn y gymuned

1.3      Hybu dulliau iach o fwy ar gyfer pobl o bob oedran trwy weithgareddau i roi sylw i un neu fwy o’r canlynol:

  • cynyddu gweithgarwch corfforol
  • codi ymwybyddiaeth o risgiau ysmygu a darparu cymorth i roi’r gorau iddo
  • lleihau goryfed alcohol
  • hybu bwyta’n iach   
  • llesiant iechyd meddwl

 

Hybu a Chynnal Annibyniaeth

Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n rhoi sylw i un neu fwy o’r amcanion a ganlyn dan hybu a chynnal annibyniaeth:

2.1       Gweithgareddau i gefnogi gofalwyr

2.2       Cymorth anffurfiol mewn cymunedau i bobl ag anghenion gofal ar lefel is, fel cyfeillio, cynlluniau cymydog da, casglu presgripsiynau

 

            Enghreifftiau o sut y gellid defnyddio’r cronfeydd:

  • I alluogi grwpiau gwirfoddol sydd eisoes yn bodoli i estyn amrywiaeth eu gweithgareddau trwy brynu offer newydd, i ariannu aelodau i ddatblygu sgiliau newydd i’w rhannu, neu i gynnal digwyddiadau /gweithgareddau i ehangu aelodaeth.
  • I ddarparu arian sefydlu i grwpiau newydd sydd â nod i fodloni un neu fwy o’r amcanion hyn e.e. i brynu offer, llunio taflenni, cael yswiriant, cael hyfforddiant.

 

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n bodloni’r meini prawf uchod ac sy’n dangos y nodweddion a ganlyn:

  1. Mynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth
  2. Datblygu gweithgareddau newydd
  3. Cynnwys cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir
  4. Datblygu gweithgareddau sy’n annog cynwysoldeb ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth
  5. Dangos eu bod yn mynd ati i gynnwys y bobl sy’n rhan o’r gymuned / y gymuned fuddiant y bydd y grant o fudd iddynt yng ngwaith datblygu’r cynigion


I dderbyn copi o'r ffurflen gais, anfonwch e-bost at grants@pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191

Dyddiad cau'r cais yw 5pm, 02-03-20


 

Cynllun Grantiau Bach Gwybodaeth a Meini Prawf

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity