Mae cyllid argyfwng COVID-19 yn newid

Bydd Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC, sydd wedi dyfarnu bron £7.5 miliwn i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, yn newid ym mis Awst i adlewyrchu anghenion newidiol y sector.

Yn ystod y 14 o wythnosau y mae Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF) wedi bod ar waith, mae wedi dyfarnu bron £7.5 miliwn mewn ymateb i geisiadau grant brys gan fudiadau gwirfoddol ar y rheng flaen yng Nghymru. Cafodd VSEF ei chyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sector gwirfoddol i ehangu ac addasu gwasanaethau, ac i wynebu heriau newydd a achoswyd gan y pandemig.


Mae’r gweithgarwch a gyllidwyd gan VSEF wedi helpu’r sector i gynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ledled Cymru mewn ymateb i COVID-19, a rhagwelir y bydd yn ymgysylltu â bron 6,000 o wirfoddolwyr ac yn cynorthwyo dros 700,000 o fuddiolwyr yn y misoedd i ddod.

Mae gwaith mudiadau gwirfoddol yn ystod y pedwar mis diwethaf wedi bod yn syfrdanol ac yn amhrisiadwy, gan daflu rhaff hanfodol i gymunedau, mynd i’r afael ag ynysu a gwella cydlyniant cymunedol.


Er enghraifft, gwnaeth BMMR Parish Trust ddefnyddio cyllid grant VSEF i ehangu eu canolfan fwyd a’u gwasanaethau dosbarthu bwyd, mewn ymateb i’r cynnydd mewn ceisiadau am gymorth gydag eitemau hanfodol yn eu cymuned.

Gallwch weld mwy o enghreifftiau o weithgareddau a gyllidwyd drwy VSEF yma.

 

Symud i’r cam adfer


Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio ac wrth i wasanaethau gwirfoddol ailgydio mewn rhywfaint o weithgarwch wyneb yn wyneb, bydd Llywodraeth Cymru a CGGC yn agor cam newydd o’r cynllun grant brys er mwyn galluogi’r sector i fynd i’r afael â gwahanol heriau yn y camau o’r pandemig sydd i ddod.

Bydd VSEF, ar ei ffurf bresennol, yn cau ar gyfer ceisiadau ar 31 Gorffennaf 2020. O 17 Awst 2020, bydd cam newydd o gyllid grant ar gael i helpu’r sector i fynd i’r afael â’r heriau sy’n dod i’r amlwg nawr wrth i ni symud i gam adfer y pandemig.


Nod y cyllid hwn fydd cyfrannu at adferiad teg a chyfiawn yng Nghymru. Mae canllawiau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ar yr hyn a fydd yn cael ei gyllido yn ystod cam nesaf y cynllun grant, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.


Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais i VSEF cyn 31 Gorffennaf, cysylltwch â Sian Baker Maurice ar 02920 431778, cyn i chi gyflwyno cais, i drafod eich cais arfaethedig.

Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yn parhau i fod yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd.

I weld diweddariadau ar y cam cyllido newydd, cadwch lygad ar dudalen we VSEF, ein tudalen newyddion a chyfryngau cymdeithasol, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr COVID- 19 dyddiol.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity