MAE BREEN YN BENDERFYNOL

Mae Olivia Breen, sydd wedi ennill dwy fedal Para Olympaidd, yn ferch gyda chenhadaeth, ac yn benderfynol o gyflwyno llwyddiant ar y podiwm gyda Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham sydd llai na dwy wythnos ymaith.

 

Mae’r wraig ifanc 25 mlwydd oed, sy’n cystadlu i Dîm Cymru, eisoes gyda rhestr neilltuol o gyflawniadau ar ben ei medalau Para Olympaidd, wedi iddi ennill medalau aur ac efydd yn y naid hir a’r ras 100m, yn drefn honno, yng Ngemau Olympaidd 2018 ar Arfordir Aur, Awstralia. 

Mae degawd anhygoel Breen o lwyddiant wedi gweld cyn athletwraig rhif dau’r byd yn y ras 100m T38 yn ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Athletau Para Olympaidd y Byd. 
Yr haf hwn, bydd Tîm Cymru, a gefnogir gan arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys dros 200 o athletwyr, ac wedi sicrhau ei lle ar y sgwad, mae Breen yn edrych i orffen ar y podiwm. 

Ac wedi cyfnod o lwyddiant, ynghyd â chael ei dethol ar gyfer Birmingham, mae’r seren a aned yn Guilford yn cyfaddef ei bod yn teimlo’n fwy hyderus cyn y Gemau nag y mae wedi teimlo erioed o’r blaen cyn cystadleuaeth o bwys.

"Ydw, ‘dwi’n meddwl mai dyma’r fwyaf hyderus rwyf wedi bod cyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth o bwys,” dywedodd Breen, oedd yn siarad yn ystod sesiwn ffotograffig y pedair cenedl, a welodd athletwyr o bob un o’r gwledydd cartref yn dod ynghyd am y tro cyntaf un i ddathlu’r cyfnod terfynol yn arwain at y Gemau. 

"Llynedd, roedd gennyf anaf yn arwain at fynd i Tokyo, anaf ysgwydd, a chael a chael oedd hi arnaf i.
 
"Rwyf bob tro yn hyfforddi’n drwyadl, ond rwyf wedi hyfforddi’n arbennig o drwyadl eleni, ac mae fy nghorff mewn cyflwr gwirioneddol dda yn gorfforol ynghyd â’m meddwl yn feddyliol.  
"Felly ydw, rwyf yn teimlo’n wirioneddol dda, ac yn gyffrous iawn cyn gemau Birmingham.
 
"Roedd y cystadlaethau cynnar yn brofiad lle cafwyd ychydig o nerfusrwydd, ond da oedd ailafael mewn pethau, a ‘dech chi’n gwybod, rwyf yn neidio ac yn rhedeg yn wirioneddol dda, felly rwy’n gobeithio yr aiff yn foddhaol ar y dydd. 

"Rwyf yn bendant fod y canlyniad gorau yn bosibl i mi, felly croesi bysedd.” 

Breen yw un o dros 1,100 o athletwyr elît ar Raglen Safon Fyd-eang Chwaraeon DU y Loteri Genedlaethol, sy’n caniatáu iddynt hyfforddi’n llawn amser, i gael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o dechnoleg, gwyddoniaeth, a chefnogaeth feddygol arloesol. 

Fe fydd hi’n gobeithio ennill yr aur yn y ras 100m T38, er na fydd yn cystadlu yn y naid hir yn nigwyddiad eleni.   
Enillodd Breen ei medalau Para Olympaidd gartref yn Llundain 2012 wedi helpu Tîm Merched Prydain Fawr yn ras gyfnewid 4x100 merched Prydain Fawr T35-T38 hyd at safle terfynol o drydydd.  

Er gwaethaf anaf ysgwydd, llwyddoddd wedi hynny i ennill safle efydd wyth mlynedd yn ddiweddarach yn Tokyo wedi ennill y trydydd safle yn y naid hir T38. 
Gyda Gemau’r Gymanwlad Birmimgham 2022 ar drywydd i ysbrydoli pobl a chymunedau led led y wlad yr haf hwn, mae Breem yn gobeithio y bydd rhannu ei stori yn rhoi cymhelliad i eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a throi eu breuddwydion yn realiti. 

A chyn iddi ddychwleyd ar gyfer cyfnod Gemau’r Gymanwlad, pwysleisiodd Breen yr hyn yr oedd derbyn dwy fedal ar Arfordir Aur Awstralia yn ei olygu. 

"Mae’n anodd paratoi i amddiffyn y medalau a enillwyd,” ychwanegodd Breen, a aned gyda salwch yn debyg i Lid yr Ymennydd (Meningitis) gan ei gadael gyda Pharlys yr Ymennydd. 

"Rhaid i chi fod yn hunanol mewn ffordd oherwydd rhaid i chi feddwl yn amdanoch eich hunan i bob diben gan mai dyma eich unig gyfle. 

"Ond ydw, rwy’n gyffrous. Roedd 2018 yn anhygoel, felly rwyf yn wirioneddol gyffrous am y gemau hyn.”
 
Mae Breen yn credu fod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol i’w chynnydd fel athletwraig Para Olympaidd. 

Ychwanegodd: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn anhygoel,” 

"Rwyf wedi cael fy ariannu ganddynt am bron deng mlyneddd yn awr, ac maen nhw wirioneddol wedi helpu fy ngyrfa. 

"Boed os yw hynny’n faeth, cryfder a chyflyru, a’m hyfforddwr, rwyf yn wirioneddol lwcus, ac ni fyddwn wedi cyrraedd lle’r wyf nawr na chyflawni’r hyn a wnes heb eu cefnogaeth.  
"Yr hyn rwyf yn ei olygu yw bod deng mlynedd, waw, yn amser eithaf hir. 

"Mae’n mynd heibio mor sydyn, ond rwyf yn wirioneddol ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud. 

"Rwyf eisiau dweud diolch aruthrol i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.” 

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da gan gynnwys arian hanfodol ar gyfer chwaraeon – o lawr gwlad hyd at lefel elît. Gallwch ganfod sut mae eich rhifau yn gwneud i bethau gwych ddigwydd ar: www.lotterygoodcauses.org.uk a chymryd rhan trwy ddefnyddio’r hashnod: #AthletwyrYLG.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity