Mae’r arolwg, sy’n cael ei redeg gan Bwyllgor Cymru’r Sefydliad Siartredig Codi Arian, yn cynnwys data gan 91 o godwyr arian ar effaith yr argyfwng ar eu sefydliadau. Canfu hefyd fod gan 86% o ymatebwyr naill ai hyder isel neu ddim hyder o gwbl y byddant yn gallu cyflawni eu targedau ariannol unigol yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Yn ogystal, dywed 96% o ymatebwyr nad yw'r llywodraeth wedi gwneud digon i gefnogi elusennau sy'n colli incwm codi arian. Tra bod cynllun y llywodraeth sydd ar gael yn gwneud gwahaniaeth mae bylchau yn y cyllid: dywed 59% o ymatebwyr y bydd cefnogaeth arfaethedig y llywodraeth yn helpu eu helusen, ond dywed 41% na fydd unrhyw un o gynlluniau arfaethedig y llywodraeth yn helpu eu helusen.
Rhannwyd y canfyddiadau â Llywodraeth Cymru gan Brif Weithredwr y Sefydliad Siartredig Codi Arian, Peter Lewis, mewn llythyr yn galw am gyllid priodol a theg ar gyfer elusennau Cymru.
Ynddo, mae'n gofyn am sefydlu dwy ffrwd o gyllid, er mwyn sicrhau bod elusennau'n gallu cael gafael ar gyllid yn gyflym i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen nawr, ac i sicrhau hefyd bod elusennau Cymru yn gallu chwarae eu rôl wrth gefnogi cymunedau Cymru yn y tymor hwy.
Dywedodd Lewis:
Mae codwyr arian ledled Cymru yn wynebu amser anhygoel o heriol i gadw eu sefydliadau i redeg, rheoli'r galw cynyddol am wasanaethau, a chodi'r arian sydd ei angen yn daer i'w gwneud yn bosibl.
“Mae angen cyllid a chefnogaeth ychwanegol i gefnogi gwasanaethau sy'n ymateb yn uniongyrchol i helpu pobl trwy'r argyfwng coronafirws, ac un arall i ddisodli incwm a gollwyd er mwyn cynnal y gwasanaethau elusennol presennol.”
Cysylltwch â PAVO i roi gwybod i ni'r math o gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch yn y dyfodol
E-bost: info@pavo.org.uk