Prynwyd pedwar set o bum deg o lyfrau yn dilyn grant gan Gronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Raglen Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys.
Mae’r rhestr yn cynnwys llyfrau ffeithiol am ganser yn ogystal â rhai am brofiadau pobl yn byw gyda’r clefyd. Gall trigolion chwilio a gwneud cais am lyfr o’r catalog llyfrgell ar-lein sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Powys (sirsidynix.net.uk), neu mae croeso iddynt bicio i’w cangen leol i ofyn am un, neu i godi taflen sy’n rhestru’r holl deitlau.
Mae’r prosiect Llyfrau am Ganser yn ffurfio rhan o raglen Gwella’r Daith Canser ym Mhowys. Partneriaeth yw hon rhwng Cefnogaeth Canser Macmillan, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dywedodd Arweinydd y Rhaglen, Meinir Morgan:
“Mae rhaglen Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys yn canolbwyntio ar gefnogi ein trigolion yn well trwy gynnig asesiad anghenion cyfannol. Mae hwn yn rhoi cyfle iddynt drafod a nodi eu pryderon allweddol yn dilyn diagnosis o ganser a chael cefnogaeth yn lleol. Gall hyn gynnwys cyngor am fudd-daliadau, pryd i ddychwelyd i’r gwaith, mynd i grŵp lleol neu wasanaeth cyfeillio, neu help gyda siopa ac anghenion gofal. Hefyd gall ein llyfrau am ganser roi gwybodaeth i rywun sy’n byw gyda chanser gan gynnwys teuluoedd, ffrindiau neu ofalwyr.”
Dywedodd Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mewn sir wledig fel Powys lle nad oes ysbyty gyffredinol, rhaid i’r rhan fwyaf o drigolion deithio y tu allan o Bowys i gael eu diagnosis a’u triniaeth. Gwyddom fod llawer yn teimlo’n ynysig ac yn ansicr am le i fynd i gael help pan ddôn nhw adref. Yn dilyn y rhoddion a wnaed gan ein cleifion i’n Cronfa Elusennol, llwyddon ni i gael dau gant o lyfrau a oedd wedi eu cymeradwyo o ran ansawdd a sicrwydd gan Macmillan. Maent yn cynnig adnodd ychwanegol y bydd croeso mawr iddo ymysg pobl sy’n byw gyda chanser neu aelodau eu teuluoedd i’w benthyg fel y bo’r gofyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Llyfrgelloedd Powys:
“Mae Llyfrgelloedd Powys yn falch dros ben o gydweithio â rhaglen Gwella’r Daith Canser ym Mhowys i gadw amrywiaeth o lyfrau am ganser ar ein silffoedd. Bellach maen nhw ar gael am ddim i unrhyw un sydd eu hangen.
Gall darllen fod yn gysur ac yn ysbrydolaeth, ac mae’n rhoi gwybodaeth ffeithiol a pherthnasol a all fod yn fuddiol i bobl sy’n byw gyda chanser. Dros amser gobeithio y bydd croeso mawr i’r llyfrau hyn ac y bydd preswylwyr yn gwneud defnydd mawr ohonynt.”
Mae tîm y rhaglen a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi cael dau lyfr Cymraeg ac er nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu gan Macmillan, hyderir y bydd darllenwyr Cymraeg eu hiaith yn rhoi croeso mawr iddynt.
Mae mwy o fanylion am y rhaglen ar gael yma: Dogfennau Allweddol | Powys RPB
I gael gwybodaeth, cefnogaeth neu sgwrs, ffoniwch Macmillan am ddim ar 0808 808 0000 neu ewch i’w gwefan: www.macmillan.org.uk