Lansio ymgyrch #BydWynebiWaered – 6ed Gorffennaf

Mae pobl ddall ac â golwg rhannol wedi arfer symud drwy fyd cymhleth. Ond mae’r coronafeirws wedi troi’r byd wyneb i waered. Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, bydd newid i fusnesau, gwasanaethau a strydoedd i orfodi cadw pellter

cymdeithasol yn gwneud mynd yn ôl i fywyd arferol yn llawer mwy anodd.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

#BydWynebiWaered

O’r 6ed Gorffennaf ymlaen, bydd yr RNIB yn lansio ein hymgyrch Byd Wyneb i Waered, wythnos o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth
o’r heriau unigryw mae cadw pellter cymdeithasol yn eu creu i bobl ddall ac â golwg rhannol.


Rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth gydag arddangosfa hysbysebu fwyaf Ewrop, Piccadilly Lights. Unwaith bob awr, bydd y goleuadau’n cael eu troi ben i lawr i gynrychioli’r Byd Wyneb i Waered mae pobl â cholled golwg yn ei wynebu, gyda neges i’r cyhoedd fod yn garedig, bod yn ymwybodol a chynnig helpu.


Hefyd rydyn ni wedi creu fideo a chwis cadw pellter cymdeithasol i sicrhau dealltwriaeth o golled golwg.

 

Sut gallwch chi helpu
 

Er mwyn tynnu sylw at weithgarwch yr wythnos sy’n dechrau ar 6ed Gorffennaf, rydyn ni’n gofyn i Aelodau’r Senedd, y cyhoedd, sefydliadau a busnesau i ddangos eu cefnogaeth drwy droi eu proffiliau a’u logos ar gyfryngau cymdeithasol wyneb i waered.

 

  • • Trowch eich proffiliau ar gyfryngau cymdeithasol wyneb i waered yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 6ed Gorffennaf ac annog eich dilynwyr a’ch cefnogwyr i wneud yr un peth
  • • Ateb a rhannu ein cwis
  • • Rhannu ein fideos a chynnwys arall
  • • Hybu’r ddeiseb sy’n cael ei harwain gan ymgyrchydd yn galw am weithredu er mwyn gwneud manwerthu’n fwy hygyrch i bobl anabl

Geiriau a awgrymir ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol:

“Mae cadw pellter cymdeithasol wedi troi’r #BydWynebiWaered i bobl â cholled golwg. Yr wythnos yma, rydw i’n troi fy llun proffil wyneb i waered i gefnogi ymgyrch @RNIBCymru i godi ymwybyddiaeth o’r heriau hyn ac i ofyn i’r cyhoedd fod yn garedig, bod yn ymwybodol a chynnig helpu.

Rhowch gynnig ar ateb y cwis i gael gwybod mwy quiz”
Rydw i’n cefnogi ymgyrch #BydWynebiWaered @rnib_campaigns sy’n tynnu sylw at yr heriau mae llawer o bobl ddall ac â golwg rhannol yn eu profi wrth geisio cadw pellter cymdeithasol. Byddwch yn ymwybodol a chynnig helpu os gallwch chi. Rhowch gynnig ar ateb y cwis i gael gwybod mwy quiz
Ein gofynion polisi

Mae ymgyrch #BydWynebiWaered yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud eisoes yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib i sicrhau nad yw pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru’n cael eu trin yn annheg gan yr ymateb i bandemig Covid-19.


Rydyn ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:

  • • Cyhoeddi cyfarwyddyd i ddarparwyr gwasanaethau, busnesau a chyflogwyr i esbonio sut i wneud mesurau cadw pellter cymdeithasol yn hygyrch
  • • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r anawsterau mae pobl â cholled golwg yn eu hwynebu wrth gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol, er mwyn lleihau stigma
  • • Creu cyfarwyddyd penodol ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol ar gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys rheolau clir ar dywys, i helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus eu bod yn gallu symud o gwmpas y lle yn ddiogel ac adfer eu hannibyniaeth
  • • Cymryd camau i sicrhau bod pob newid i ofod cyhoeddus yn hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol.

Diolch i chi, fel erioed, am eich cefnogaeth barhaus. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn neu os gallwn ni ddarparu rhagor o gymorth.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity