Mae'r adroddiad, “Iechyd Meddwl mewn Powys 2021- Dod o Hyd i Gydbwysedd Newydd”, yn dogfennu effaith covid ar iechyd meddwl unigolion ac ar y sefydliadau gwirfoddol iechyd meddwl ar draws Powys. Mae'n adrodd ar anghenion y dyfodol a bylchau mewn gwasanaethau ac yn dangos sut mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyflawni canlyniadau yn erbyn y cynllun “Gyda'n Gilydd ar gyfer Iechyd Meddwl”.
Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfweliadau fideo gydag 20 o drigolion Powys, yn siarad am eu hiechyd meddwl.