Hyfforddiant gyda PAVO ym mis Ionawr

Gyda hyfforddiant i gyd nawr yn gael ei ddarparu ar lein, ac am ddim (gwerth £50 bob sesiwn) - mae hyfforddiant PAVO ar gael i bawb.

Gallwch weld yr amserlen ac archebu eich llefydd yma - neu gallwch wylio’r fideo 60 eiliad hon.

Yn dilyn sesiwn poblogaidd yn Rhagfyr, rydym yn cychwyn cynigion Ionawr gyda ‘Cychwyn gyda’r Cynnig Rhagweithiol’ ar y 12fed. Bydd Gwern ap Gwyn yn edrych ar yr angen dros wasanaethau Cymraeg ym Mhowys ac yn cefnogi’ch mudiad i wneud y gorau a gellir.

Ydych chi erioed wedi meddwl codi arian i'ch sefydliad ar-lein ond yn ansicr o ble i ddechrau? Mae ein sesiwn ar y 14eg - ‘How to Crowdfund’ gyda Diana Berriman i chi! Bydd Diana yn edrych ar wahanol ffyrdd o godi arian ar-lein, symleiddio cefnogaeth rhoddion a phlatfformau eraill posib.

Trwy gydol rhan gyntaf y flwyddyn rydym yn cynnig ‘Essentials of Safeguarding’ - man cychwyn delfrydol i unrhyw un sydd am wella eu hymwybyddiaeth neu ddiweddaru eu gwybodaeth. Dyddiadau’r hyfforddiant yw Ionawr 20fed, 27ain a 28ain.

Cynnig trosolwg o beth i edrych amdano wrth redeg adeilad cymunedol yw nod ein sesiwn ddydd Iau 21ain. Mae Melissa Townsend wedi dylunio'r cwrs hwn yn benodol wrth ystyried neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol - er y bydd unrhyw un sy'n gyfrifol am adeilad cyhoeddus yn sicr o elwa. Dilynir y sesiwn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda phanelwyr sydd â phrofiad o redeg adeiladau cymunedol o'r gymuned i ganolfannau hamdden.

Dal ddim yn unrhyw beth yr ydych yn ei ffansio? Beth am gwrs dwy ran (2 x 1.5 awr) ar ‘Incwm Cynaliadwyedd ac Amrywiol’ - a gyflwynir gan Swyddogion Datblygu Mik Norman a Tim Davies - cyfle i archwilio sut y gall eich sefydliad adlewyrchu, dadansoddi a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae'r cwrs hwn yn pontio ein hamserlenni ym mis Ionawr a mis Chwefror - yn rhedeg ddydd Iau 28ain Ionawr a dydd Iau 4ydd Chwefror am 1.30pm.

Os ydych chi wedi gweld rhywbeth diddorol - ac yr hoffech chi ddarganfod mwy ac archebu lle - cliciwch yma.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity