Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhagfyr

Mae'r Nadolig wedi dod yn gynnar yn PAVO gyda dim llai na phum digwyddiad a sesiwn hyfforddi ar-lein am ddim ar gael ym mis Rhagfyr.

Os hoffwch wylio’r fideo yn lle: https://youtu.be/FdL9SojgqwE

Dechreuwn gyda digwyddiad Cwrdd â'r Cyllidwyr a fydd yn cynnwys siaradwyr o’r Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar ddydd Mercher yr 2il. Mae'r cynllun hwn, a elwid gynt yn Loteri Fawr, yn cynnig cyllid i amryw o sefydliadau mawr a bach. Archebwch nawr i ymuno â ni a darganfod mwy.

Yn gysylltiedig â’r sesiwn hon, i’r rhai ohonoch sydd am hybu eich incwm, mae ein hyfforddiant ar ‘Ysgrifennu Cynigion Cyllido’ yma i chi. Mae wedi'i rannu'n ddwy sesiwn dros bythefnos (9fed a 16eg), byddwn yn ymdrin â'r theori ac yna'n edrych ar rai enghreifftiau ymarferol o sut i wneud eich cais yn ddeniadol i arianwyr.

Mae newidiadau rheolaidd i reoliadau COVID wedi bod yn gur pen i sefydliadau sy'n gweithredu cyfleusterau cyhoeddus - yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r neuaddau pentref niferus a chanolfannau cymunedol ledled y sir. Bydd ein sesiwn ‘Adeiladau Cymunedol: Rheoliadau COVID-19’ ar y 9fed yn eich diweddaru chi ar bobeth sy’n berthnasol.

Ar y 10fed, bydd Gwern ap Gwyn yn ein cymryd trwy ‘Cychwyn gyda’r Cynnig Rhagweithiol’. Yn ystod y sesiwn byddwch yn dysgu mwy am beth all eich mudiad gwneud i gynnig mwy o’ch gwasanaethau drwy’r Gymraeg yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn.

Yn olaf ar y 14eg bydd ein cwrs ‘Bod yn Ymddiriedolwr’, sydd o hyd yn boblogaidd. Bydd yn rhannu popeth perthnasol ynglŷn â rôl a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr. Pe bai eich bod yn ystyried dod yn ymddiriedolwr, neu os ydych yn hen law sydd eisiau gwneud yn siŵr eich bod efo’r wybodaeth fwyaf diweddar, mae’r cwrs hwn yn berffaith.

Os rydym wedi taro’ch sylw, a hoffwch chi fachu lle ar un o’r sesiynau rhain, archebwch le ar ein gwefan (ond nifer cyfyngedig sydd ar gael).

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity