Holiadur Effaith Covid-19 ar Grwpiau Cymunedol Cymraeg

Hoffai Llywodraeth Cymru gael ein cymorth i geisio deall sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar grwpiau cymunedol fel eich un chi.

 

Mentrauiaith am ddarganfod sut mae'r cyfnod clo a'r cyfyngiadau a gyflwynwyd ers hynny wedi effeithio ar sut mae eich grŵp yn gweithredu, i ba raddau ydych chi wedi gallu addasu eich gweithgareddau, a beth yw eich bwriadau ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.   

"Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o amser yn cwblhau'r arolwg ar-lein hwn, a ddylai gymryd tua 10 -15 munud i'w gwblhau.".  

Dolen i'r arolwg  

 

Bydd eich atebion yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a ninnau ym Menter Iaith Caerffili i ddeall mwy am y sefyllfa bresennol o ran y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ac i nodi'r hyn sydd ei angen er mwyn diogelu'r cyfleoedd hyn wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. 

O dan GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Heb eich caniatâd penodol, ni fyddwch chi na'ch grŵp cymunedol yn cael eich adnabod mewn unrhyw gyhoeddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg.   

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y caiff eich ymatebion eu prosesu, cliciwch yma  

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg hwn neu i gael cymorth i gwblhau'r arolwg, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar 03000 256682 neu anfonwch neges e-bost at: DataIaithGymraeg(at)llyw.cymru   

Dyddiad cau yr arolwg yw dydd Gwener 2 Hydref 2020.  

 

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r arolwg gallwch ffonio eich Menter Iaith leol am gymorth pellach www.mentrauiaith.cymru

Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cymorth.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity