Roedd ein Cynllun Strategol 2019-22 a'n Cynllun Busnes 2020-21 yn cynnwys amcanion newydd o ganlyniad i'r hyn a ddywedasoch wrthym trwy Arolwg Adborth Rhanddeiliaid y llynedd. Mae eich adborth yn dylanwadu ar ein gweithgareddau - Dywedasoch yr hoffech gael mwy o rwydweithio lleol - rydym wedi sefydlu rhwydweithiau ardal ym mhob ardal trwy Powys sy'n gysylltiedig â'r Cysylltwyr Cymunedol. Fe ddywedoch chi yr hoffech i'r wybodaeth rydyn ni'n ei rhannu gael ei thargedu'n well a'i bod yn haws i’w ddarllen - rydyn ni wedi sefydlu E-fwletin ar arddull newydd ac wedi gwahanu gwybodaeth ar gyfer cylchrediad cyffredinol a chynulleidfaoedd arbenigol.
Rydym yn parhau i fonitro a gwerthuso ein perfformiad mewn ymateb i'r adborth a gawn. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ymateb erbyn 15/01/2021, fel y gallwn fwydo'ch atebion i'n hadolygiad o wasanaethau a darparu gwasanaethau a chynllunio busnes ar gyfer y cyfnod 2021-22.
Diolch yn fawr iawn am eich amser.
Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg