Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC/SCW) yn cynnal chwe digwyddiad wyneb yn wyneb hanner diwrnod ar y cyd lle byddwch yn gallu cyfrannu at y cam nesaf o weithredu'r strategaeth gweithlu 10 mlynedd.
Bydd y digwyddiadau chwe hanner diwrnod yn cael eu cynnal ar dri diwrnod a byddant yn cael eu cynnal ledled Cymru ar y dyddiadau canlynol:
- Gogledd Cymru: Dydd Llun 20 Mehefin yn Venue Cymru, Llandudno
- Gorllewin Cymru: Dydd Llun 11 Gorffennaf yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin
- De Cymru: Dydd Iau 14 Gorffennaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Bydd pob un o'r diwrnodau'n cynnwys dau ddigwyddiad, un yn rhedeg yn y bore (09:00 tan 12:30) a'r llall yn y prynhawn (13:00 tan 16:30).
Bydd digwyddiadau'r bore yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
1. Gweithlu ymgysylltiedig, brwdfrydig ac iach
2. Atyniad a recriwtio
3. Arweinyddiaeth ac olyniaeth
4. Cyflenwad a siâp y gweithlu
5. Llesiant.
bydd digwyddiadau'r prynhawn yn canolbwyntio ar:
- Modelau gweithlu di-dor
- Adeiladu gweithlu sy'n barod am y byd digidol
- Addysg a dysgu rhagorol
- Cynhwysiant
- Y Gymraeg.
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ar gyfer y digwyddiad yr hoffech ei fynychu:
Gogledd Cymru:
- Digwyddiad y bore
- Digwyddiad prynhawn
Gorllewin Cymru:
- Digwyddiad y bore
- Digwyddiad prynhawn
De Cymru:
- Digwyddiad y bore
- Digwyddiad prynhawn
Mae croeso i chi ymuno â ni mewn digwyddiad bore a phrynhawn; fodd bynnag, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y ddau ddigwyddiad