Gwarchod yng Nghymru i ddod i ben am y tro o 16 Awst

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst.

Gwarchod o 6ed Gorffennaf ymlaen

Pa ganllawiau ddylwn i fod yn eu dilyn o 6 Gorffennaf ymlaen?

Dylai’r rheini sydd wedi derbyn llythyr i warchod ddechrau mis Mehefin barhau i warchod tan 16eg Awst a dilyn y cyngor sydd yn y llythyr. Un ychwanegiad pwysig i’r llythyr hwn yw bod y rheini sy’n gwarchod yn cael ymuno ag aelwyd estynedig o 6ed Gorffennaf ymlaen. Mae'r canllawiau wedi’u diweddaru ar gael yma Canllawiau Gwarchod Llywodraeth Cymru

6 Gorffennaf ymlaen, bydd dwy aelwyd yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio “aelwyd estynedig”?

O 6 Gorffennaf ymlaen, bydd dwy aelwyd yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio “aelwyd estynedig”I bob pwrpas, bydd aelodau’r ddwy aelwyd yn dod yn rhan o un aelwyd a bydd angen iddyn nhw gytuno ar sut y dylai aelodau o’r aelwyd honno ymddwyn er mwyn cadw pob aelod yn ddiogel.

Nid oes ots pwy sydd yn eich aelwyd estynedig, ond dim ond gydag un aelwyd arall mae modd ei chreu, ac mae’n rhaid i’r trefniant hwnnw fod yn egsgliwsif. Ni chewch ei newid.

Mae aelwydydd sydd ill dwy yn cynnwys aelodau sy’n gwarchod yn dal yn gallu dod at ei gilydd i greu aelwyd estynedig.

Ydy ‘aelwydydd estynedig’ yn ddiogel?

Mae yna egwyddorion allweddol ar gyfer sut mae modd creu ‘aelwyd estynedig’ yn ddiogel. Mae’r rhain yn hollbwysig i’ch cadw chi – a’ch ffrindiau a’ch teulu’n ddiogel:

Dyma’r prif reolau

Ni chaiff neb fod yn rhan o fwy nag un aelwyd estynedig, ac eithrio plant sy’n byw mewn dau gartref (er enghraifft oherwydd bod eu rhieni wedi gwahanu a bod ganddynt warchodaeth ar y cyd).

Rhaid i'r holl unigolion mewn un cartref berthyn i’r un aelwyd estynedig.

Rhaid i holl oedolion pob aelwyd gytuno i ymuno â’r un aelwyd estynedig.

Ar ôl i chi gytuno ac ymuno ag aelwyd estynedig, ni chewch chi newid y trefniant hwn.

Os bydd un aelod o aelwyd estynedig yn datblygu symptomau’r coronafeirws, dylai’r holl aelwyd estynedig hunanynysu, nid dim ond y rheini sy’n byw gyda’i gilydd.

 Mae hi’n ddefnyddiol hefyd i bobl gadw cofnod o bwy sydd yn eu haelwyd estynedig a’u manylion cyswllt, er mwyn i swyddogion olrhain cysylltiadau allu cysylltu â nhw’n gyflym os bydd angen

Ydy pobl yn cael dod i’r tŷ nawr?

Os nad ydych chi mewn ‘aelwyd estynedig’ gydag aelwyd arall, rhaid i chi beidio â chwrdd â phobl eraill dan do.

Mae gofalwyr hanfodol yn cael parhau i ymweld â'ch cartref ond dylen nhw ddilyn y cyngor ar hylendid da. Dylen nhw gadw pellter cymdeithasol lle nad oes angen cyswllt agos neu bersonol a phan fydd hyn yn bosibl

Rwy’n poeni am ddal y coronafeirws – ydw i’n dal i wynebu risg sylweddol?

 Mae'r rheini sy’n gwarchod yn dal mewn perygl o gael salwch difrifol os byddant yn dal y coronafeirws a dylent barhau i gymryd rhagofalon, hyd yn oed wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y gymuned barhau i ddisgyn.

Dylech chi gadw pellter corfforol yn ddieithriad (2 fetr neu 3 cham i ffwrdd oddi wrth berson arall).

Dylech chi olchi eich dwylo’n rheolaidd gyda dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo.

Ydw i’n cael gweld fy nheulu a’m ffrindiau?

Mae’r rheini sy’n gwarchod yn cael gadael eu cartref ar gyfer ymarfer corff neu i gwrdd â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored.

Bydd y rheini sy’n gwarchod yn gallu creu ‘aelwyd estynedig’ gydag un aelwyd arall. Fodd bynnag, dylid parhau i gadw pellter corfforol pan fydd hynny’n bosibl. Mae pawb sydd yn yr ‘aelwyd estynedig’ yn cael treulio amser gyda’i gilydd dan do.

Dylech chi gadw pellter corfforol yn ddieithriad (2 fetr neu 3 cham i ffwrdd oddi wrth berson arall) a dylech chi ddilyn mesurau hylendid dwylo da ac osgoi cyffwrdd pethau y mae pobl eraill wedi’u cyffwrdd.

Ydw i’n cael ymarfer corff yn yr awyr agored? Os felly, pa mor aml ac am ba hyd?

Ydych, cafodd y canllawiau gwarchod eu diweddaru ar 1af Mehefin er mwyn

caniatáu i’r rheini sy’n gwarchod dreulio amser yn yr awyr agored, gan gynnwys ar gyfer ymarfer corff.

Os byddwch chi’n mynd allan, dylech chi gael cyn lleied â phosibl o gyswllt ag eraill drwy gadw pellter corfforol yn ddieithriad (2 fetr neu 3 cham i ffwrdd oddi wrth berson arall). Mae modd gwneud hyn mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored neu mewn gardd breifat.

Ni roddwyd cyngor ynghylch pa mor aml ac am ba hyd y ceir treulio amser yn yr awyr agored, chi sydd i benderfynu ar hynny, ond dylech chi ddilyn y canllawiau cadw pellter corfforol a dylech bob amser ddilyn mesurau hylendid dwylo da

Ydy hyn yn golygu fy mod i’n cael mynd i siop/fferyllfa?

Ar hyn o bryd cynghorir i’r rheini sy’n gwarchod beidio â threulio amser mewn unrhyw adeiladau eraill neu ardaloedd sydd wedi’u gorchuddio ar wahân i’ch cartref eich hun (ac eithrio os ydych chi’n rhan o ‘aelwyd estynedig’ o 6 Gorffennaf ymlaen).

 Mae’r rheini sy’n gwarchod yn gallu cael gafael ar slotiau danfon â blaenoriaeth gan archfarchnadoedd a fferyllfeydd yn ogystal â chefnogaeth leol arall gan gynnwys bocsys bwyd. Edrychwch ar eich llythyr gwarchod oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol i gael rhagor o fanylion.

 Os byddwch chi’n ymuno ag aelwyd estynedig o 6ed Gorffennaf ymlaen, bydd aelodau’r aelwyd estynedig honno yn gallu eich helpu gyda'ch anghenion o ran siopa a fferyllfa.


Pam fydd y cyngor i’r rheini sy’n gwarchod yn newid ar ôl 16eg Awst?

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud, os bydd nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ddisgyn yn ein cymunedau, y bydd yn gallu atal ei gyngor i’r rheini sy’n gwarchod. Ni fydd angen i’r rheini sy’n gwarchod wneud hynny mwyach ar ôl 16eg Awst.

Bydd llythyr yn cael ei anfon at bawb sy’n gwarchod cyn 16eg Awst i gadarnhau’r cyngor hwn.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwn yn unol â Phrif Swyddogion Meddygol gwledydd eraill y DU; gan gydnabod bod gwarchod wedi cael ei gyflwyno i ddiogelu’r rheini a oedd yn wynebu’r risg fwyaf o niwed ar adeg pan roedd nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cynyddu yn ein cymunedau.

Mae niwed sylweddol ynghlwm wrth barhau i warchod ac mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar helpu pobl i gymryd camau tuag ddychwelyd at y bywydau roeddent yn eu byw cyn dechrau gwarchod

Fydda i’n dal i gael bocs bwyd? 

Bydd y rheini sy’n cael bocsys bwyd yn dal i’w cael tan 16eg Awst. Ni fyddant ar gael ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd eich bocs bwyd olaf yn cael ei ddanfon yn ystod yr wythnos a fydd yn gorffen ar 16 Awst, gan ddibynnu ar eich diwrnod danfon arferol.

Pam mae'r bocsys bwyd yn dod i ben?

Cafodd y bocsys bwyd eu sefydlu fel ateb brys oherwydd nad oedd pobl yn gallu mynd i siopa na chael slot danfon ar-lein. Y cyngor i bobl sy’n gwarchod yw eu bod yn cael mynd allan i siopa, gan roi sylw penodol i gadw pellter corfforol a hylendid da.  Rydym yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi fod y cynllun bocsys bwyd yn dod i ben er mwyn i chi gael amser i wneud trefniadau eraill.

Fydda i’n dal i allu cael slot siopa â blaenoriaeth ar ôl 16eg Awst?

- Byddwch, bydd slotiau danfon ar-lein â blaenoriaeth yn dal ar gael. Os na fyddwch chi’n gallu cael slot â blaenoriaeth gyda’ch archfarchnad arferol, rydym yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar archfarchnad arall. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu helpu drwy eich rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr a fydd yn gallu eich helpu gyda’ch siopa os bydd angen.

Rwy’n poeni am fynd i’r archfarchnad, sut galla i gael bwyd?

 Mae'r ddolen isod yn arwain at wybodaeth am ffyrdd gwahanol o gael bwyd gan gynnwys archebu ar-lein, bocsys bwyd sydd ar gael yn fasnachol a threfniadau ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n siopa a sesiynau i bobl agored i niwed.

 https://llyw.cymru/cael-bwyd-chyflenwadau-hanfodol-yn-ystod-pandemig-ycoronafeirws 

Fydd fy meddyginiaethau’n dal i gael eu danfon i mi ar ôl 16eg Awst?

Bydd y cynllun danfon meddyginiaeth gan wirfoddolwyr yn dal ar gael tan ddiwedd mis Medi.

Ydy fy nghyflogwr yn gallu fy ngorfodi i ddod i’r gwaith?

Ar ôl 16 Awst dylech chi allu dychwelyd i’r gwaith, os bydd y cyfraddau heintio’n parhau’n isel yng Nghymru, a dylai eich cyflogwr eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel a’ch cefnogi i gadw pellter cymdeithasol yn eich gweithle (os na allwch chi weithio gartref).

Dylai cyflogwyr ystyried anghenion penodol grwpiau gwahanol o weithwyr neu unigolion.

Mae cymorth ar gael i gyflogeion os byddant yn cael anawsterau. Efallai byddant eisiau cysylltu ag ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), sy’n cynnig cyngor am ddim i gyflogwyr ac i gyflogeion er mwyn datrys anghydfodau. Mae dolen i’w cyngor penodol ar y Coronafeirws ar gael yma www.acas.org.uk/coronavirus - a rhif eu llinell gymorth am ddim yw 0300 123 1100.

Rwy’n poeni am fy iechyd a’m diogelwch yn fy ngweithle?

 Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar gymryd camau i wneud y gweithle’n ddiogel https://llyw.cymru/eichcyfrifoldebau-fel-cyflogwr-coronafeirws

Os oes gennych chi bryderon am eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith, gallwch chi eu codi gydag unrhyw gynrychiolydd diogelwch undeb, neu yn y pen draw gyda’r sefydliad sy’n gyfrifol am orfodaeth yn eich gweithle, sef naill ai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’ch awdurdod lleol.

Os ydych chi’n hunangyflogedig mae cymorth ar gael drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Fydda i’n dal i gael tâl salwch statudol pan ddaw’r cyngor i warchod i ben?

Na fyddwch, pan fydd y cyngor ar warchod yn dod i ben ar 16eg Awst, bydd eich hawl i gael Tâl Salwch Statudol hefyd yn dod i ben. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd gennych chi hawl i gael Credyd Cynhwysol neu’r Math Newydd oFudd-daliadau.

Bydd unigolion ddim ond yn cael hawlio Tâl Salwch Statudol oherwydd y Coronafeirws os ydych chi:

  •  yn hunanynysu oherwydd bod gennych chi neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw symptomau’r coronafeirws
  • yn hunanynysu oherwydd eich bod wedi cael gwybod gan y GIG neu awdurdodau iechyd y cyhoedd eich bod wedi cael cyswllt gyda rhywun sydd â'r coronafeirws.
  •  https://www.gov.uk/statutory-sick-pay

Fydd fy ffyrlo’n dod i ben pan ddaw’r gwarchod i ben?

Os bydd y cyflogwr a’r cyflogai’n cytuno, bydd modd cadw staff ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws nes iddo ddod i ben ddiwedd mis Hydref. Bydd faint bydd Llywodraeth y DU yn ei dalu tuag at y cynllun yn gostwng yn raddol i 60% a gofynnir i gyflogwyr gyfrannu i sicrhau bod staff yn derbyn o leiaf 80% o’u cyflog tra byddant ar ffyrlo.

O 1 Gorffennaf ymlaen, bydd cyflogwyr yn gallu rhoi cyflogeion ar ffyrlo’n rhan-amser – mae hyn yn golygu eu bod yn gallu dod â chyflogeion yn ôl i weithio am unrhyw gyfnod, ac unrhyw batrwm sifft. Os bydd cyflogwyr yn dewis rhoi staff ar ffyrlo’n rhan-amser, bydd angen iddynt gytuno ar hyn â’u cyflogeion (neu ddod i gydgytundeb gydag undeb llafur). Mae angen i gyflogwyr sicrhau bod y cytundeb hwn yn cyd-fynd â chyfreithiau cyflogaeth, cydraddoldeb a gwahaniaethu.

Fydd fy enw i’n aros ar y rhestr gwarchod?

Bydd. Bydd y GIG yn parhau i gynnal y Rhestr.Gleifion sy’n Gwarchod er mwyn i ni allu darparu cefnogaeth a chyngor penodol i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed ac er mwyn i ni allu newid y gefnogaeth a’r cyngor os bydd angen.

Fydd angen i ni ‘warchod’ eto yn y dyfodol?

Mae'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn dangos bod y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gymuned wedi parhau i ddisgyn. Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn monitro’r sefyllfa hon yn rheolaidd ac os bydd y cyfraddau heintio yn y gymuned yn y codi, efallai y bydd angen cynghori pobl i ddilyn mesurau sy’n fwy caeth.

Bydd y rheini sydd wedi derbyn llythyr cleifion sy’n gwarchod yn aros ar y Rhestr Cleifion sy’n Gwarchod. Bydd y canllawiau’n parhau i gael eu diweddaru i adlewyrchu’r cyngor diweddaraf gan y Prif Swyddog Meddygol. Os bydd newid mawr i’r cyngor, bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at yr holl gleifion ar y rhestr yn egluro unrhyw newidiadau.

Mae hi’n bosibl y bydd unrhyw gynnydd mewn achosion lleol yn golygu bod angen cyngor i ardal ddaearyddol benodol yn y dyfodol. Os felly, dim ond y rheini yn yr ardal dan sylw fyddai’n cael llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol.

Pam mae’r cyngor yng Nghymru yn wahanol i’r cyngor ar gyfer rhannau eraill o’r DU?

Yr unig ran o’r cyngor sy’n wahanol yng Nghymru yw'r dyddiad pan fydd y cyngor ar warchod yn cael ei atal. Ni chaiff gwarchod ei orfodi, dim ond ei gynghori. Os nad yw pobl eisiau gwarchod bellach, nid oes angen iddynt wneud hynny.

Newidiadau i blant a phobl ifanc sy’n gwarchod

  • Oes angen i’m plentyn ddal ati i warchod?
  • Oes, nes i’r gwarchod gael ei atal i bawb (plant ac oedolion) ar 16eg Awst (oni bai fod eich clinigydd wedi dweud yn wahanol wrthych chi).Ar ryw adeg rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o blant yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr gwarchod ac rydym yn gweithio drwy'r broses ar sut bydd modd gweithredu’r canllawiau hyn dros yr haf.
  • Mae hyn yn golygu na fyddai gofyn iddynt warchod eto yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl mai dim ond y rheini sy’n cael mathau penodol o driniaethau, er enghraifft gofal canser neu’r rheini sydd â risg o gael haint difrifol oherwydd imiwnoddiffygiant, fydd yn aros ar y rhestr gwarchod ac felly mae’n bosibl y bydd angen iddyn nhw warchod eto yn y dyfodol.

Pa dystiolaeth ydych chi’n ei defnyddio i wneud y penderfyniad hwn?

Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant newydd gyhoeddi canllawiau ar Warchod i Blant a Phobl Ifanc.

Mae canllawiau’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn datgan nad oes angen i’r holl blant a phobl ifanc hynny sy’n gwarchod ar hyn o bryd barhau i wneud hynny. 

www.rcpch.ac.uk/resources/covid-19-shielding-guidance-childrenyoung-people.

Fydd fy mhlentyn yn cael mynd i’r ysgol ar ôl atal y gwarchod ar 16eg Awst?

Ni fydd angen i blant a phobl ifanc warchod ar ôl 16 Awst. Mae hyn yn golygu y byddant yn gallu dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg/brifysgol.

Os nad yw fy mhlentyn yn gwarchod bellach, fydda i’n cael dirwy os na fydd yn mynd i'r ysgol?

Yn y lle cyntaf dylai rhieni gael sgwrs gyda’r ysgol. Efallai bydd hi’n bosibl datrys unrhyw bryderon sydd gennych am ddiogelwch drwy gael trafodaeth neu drwy ymweld â'r lleoliad.

Mae hi’n annhebygol y byddai dirwyon yn angenrheidiol nac yn briodol yn yr amgylchiadau hyn, ond bydd hyn yn cael ei adolygu

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity