Neges gan Jane Hutt MS Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Annwyl Gyfeillion,
Mae’r coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar bob gwlad ledled y byd ac ar Gymru. Yn ogystal â'r peryglon iechyd, mae'r canlyniadau'n cael effaith ar bob rhan o'n cymdeithas, gan gynnwys pobl a chymunedau sydd eisoes yn agored i niwed neu dan anfantais.
Mae'r effaith ar y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi bod yn ddifrifol, gan gynnwys colli incwm ac atal gweithgarwch. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r sector wedi ymateb yn wych i'r argyfwng, gyda llawer o sefydliadau yn addasu'r gwasanaethau a'r cymorth y maent y eu darparu i ddiwallu anghenion yn ein cymunedau na welwyd ‘mo’u tebyg erioed. Yn ogystal, mae miloedd o wirfoddolwyr newydd wedi dod i’r adwy, ac mae llawer ohonynt wedi nodi eu bod eisiau parhau i gefnogi eu cymdogion a'u cymunedau drwy’r cyfnod adfer a thu hwnt.
Mae’r pryderon yn parhau ynghylch diogelwch a chydlyniant cymunedol, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arbennig. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel a bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael cymorth a chyngor wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.
Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Gydraddoldeb, rwy'n ymwybodol iawn bod Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar rai pobl, gan gynnwys menywod, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydw i wedi gwneud cwrdd yn aml â rhanddeiliaid allweddol o'r grwpiau hyn, a rhwydweithiau cydraddoldeb
eraill, yn flaenoriaeth. Mae eu cyngor wedi bod yn hollbwysig o ran ein helpu i nodi a mynd i'r afael yn gyflym â phroblemau sy'n deillio o'r pandemig. Rydw i’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth
Rydw i hefyd yn sylweddoli bod anghydraddoldeb economaidd yn debygol o waethygu yn ystod dirwasgiad, gan atgyfnerthu'r angen i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r effaith a gaiff ein penderfyniadau a'n polisïau ar y rhai mwyaf difreintiedig. Mewn perthynas â hyn, gallaf gadarnhau y bydd y Ddyletswydd Economaidd-
gymdeithasol (Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yn cychwyn yn nhymor y Senedd hon, gan ddod i rym ar 31 Mawrth 2021. Bydd y Ddyletswydd yn fecanwaith allweddol ar gyfer cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn rhywbeth a fydd yn eithriadol o bwysig wrth inni barhau i ymateb i Covid-19. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ynghylch y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar wefan Llywodraeth Cymru yma.
Yn gwbl ddiamau, rydym yn wynebu heriau enfawr, na welwyd eu tebyg erioed. Wrth i ni lywio llwybr at adfer ac ail-greu, nid yw ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wedi newid – na’n hymrwymiad i amddiffyn ein cymunedau mwyaf bregus. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) bydd ein rhwymedigaethau i'r rhai sy'n ein dilyn wrth wraidd popeth a wnawn, ochr yn ochr â’n dyletswydd i'r rhai sy'n byw drwy Covid-19.
Mae ein gwerthoedd yn aros yr un fath, ond bydd angen inni fod yn ddi-ofn a radical wrth edrych ar ein polisïau sefydledig drwy lens realiti ein byd newydd, ar ôl Covid-19. Ni fydd llawer o'r pethau sydd wedi gweithio yn y gorffennol yn addas i’w diben bellach. Bydd angen i ni ddangos hyblygrwydd a dychymyg wrth werthuso ein dulliau gweithredu presennol ac wrth ddatblygu rhai newydd. Dyna pam, yn ogystal â manteisio ar deithi meddwl o fewn y
Llywodraeth, yr ydym hefyd yn benderfynol o edrych y tu hwnt i’r rheini, er mwyn herio ein hen ffyrdd o feddwl ac i gael ysbrydoliaeth ffres.
Rydym yn gwahodd pobl yng Nghymru i anfon eu syniadau i ni ynghylch sut y dylem gefnogi’r gwaith adfer ac ail-greu yng Nghymru yn y dyfodol ar ôl Covid-19. Mae gennym gyfeiriad e-bost penodol – cymrueindyfodol(at)llyw.cymru – a hoffem glywed eich barn ar sut y gallwn lunio ein dyfodol yng Nghymru. Hoffem glywed gan bobl Cymru am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi, ynghylch ble y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar gyfer adfer. Rydym yn gofyn i bobl wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Nid dyna fydd diwedd y sgwrs genedlaethol dyngedfennol hon o bell ffordd, ond rydym eisiau helpu i ganolbwyntio ymdrechion pobl i gyfrannu at ein dealltwriaeth a'n teithi meddwl yn ystod y cyfnod cynnar hwn.
Yn gywir,"
Jane Hutt AS/MS
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip