Grŵp Cynghrair Diwylliant, Amrywiaeth a Chydraddoldeb Cymru

Mae Cynghrair Diwylliant Cymru yn grŵp gwirfoddol o bobl o

sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru ac fe’i sefydlwyd

er mwyn hybu anghenion y sectorau hynny yng ngoleuni

sefyllfa Covid-19.

Mae’r Is-grŵp Amrywiaeth a Chydraddoldeb yn gweithio i hybu materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb oddi fewn i’r Gynghrair fel y gall y problemau hyn gael eu cynrychioli’n llawn wrth i’r Gynghrair weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a chyrff eraill sy’n cefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.


Mae Cynghrair Diwylliant Cymru (CDC) yn cynnwys gwahanol weithgorau sy’n delio â nifer o wahanol faterion sy’n berthnasol i’r sector celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, gan gynnwys Amrywiaeth a Chydraddoldeb, y Gymraeg, Hinsawdd a Diwylliant, Addysg a Chyfranogiad, Cydweithio, yr Economi, yn ogystal â’r Grŵp Ymateb Ystwyth a’r Grŵp Llywio.


Hoffem wahodd mwy o bobl o gymunedau amrywiol Cymru sy’n ymddiddori yn y maes celfyddydol yng Nghymru ac sy’n wybodus amdano, i ymuno a’r Gynghrair a bod yn rhan o unrhyw un o’r grwpiau hyn.


Gallwch chi ymuno â rhestr bostio’r Gynghrair yma.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn holl newyddion y Gynghrair drwy e-bost. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ymuno ag unrhyw grŵp yn y Gynghrair, mae croeso ichi gysylltu â walesculturealliance@gmail.com


Drwy sôn am unigolion amrywiol, maen nhw’n cynnwys ond nid wedi’u cyfyngu i’r canlynol:
 Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig
 Sipsiwn, Roma a Theithwyr
 Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
 Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
- Pobl â nam symudedd
- Pobl â nam synhwyraidd
- Pobl â nam/anableddau dysgu
- Pobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl
- Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor
 Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws
 Pobl o wahanol ddosbarthiadau neu grwpiau economaidd-gymdeithasol.
 Pobl o wahanol gredoau neu grefyddau
 Pobl sy’n teimlo bod eu hunaniaeth ddiwylliannol yn cael ei heithrio, ei gwthio i’r cyrion neu ei thangynrychioli


Mae’r Grŵp Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cynnal cyfarfodydd yn fisol ar Zoom. Mae’r cyfarfodydd yn para am oddeutu awr a hanner ac yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn croesawu pobl sy’n siarad pob iaith a byddwn yn gwneud ein gorau glas i hwyluso’r modd y cyrchir y cyfarfodydd.


Rydym yn annog y defnydd o’r Gymraeg.


Os hoffech chi ymwneud â’r Grŵp Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, gyrrwch e-bost at Amanda yn admin@celf-able.org, gan roi eich enw a’ch manylion cyswllt, paragraff byr am y modd y mae’ch profiad yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ynghyd â’ch diddordeb yn y celfyddydau a’ch gwybodaeth amdanynt, ac unrhyw ofynion o ran cyrchu cyfarfodydd Zoom. Gallwch ymuno â’r cyfarfodydd pan fydd modd ichi wneud hynny. Diolch yn fawr - edrychwn ymlaen at glywed gennych.

 

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity