Eich tref, eich dyfodol!
Mae COVID-19 wedi cael effaith ar Gymru gyfan. Mae wedi cyflwyno heriau gwirioneddol i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cynghorau ledled y wlad. Gyda llawer o ansicrwydd i bob un ohonom, mae Archwilio Cymru bellach yn cynnal adolygiad o ddyfodol trefi Cymru.
Gwyddom, er mwyn adfywio canol ein trefi'n llwyddiannus a sicrhau bod pobl yn defnyddio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a bod busnesau'n ffynnu, fod angen inni gasglu llawer o syniadau da. A dyna pam rydym yn gofyn am eich help. Rydym am i chi roi eich barn a'ch profiad i ni ar:
- Beth sy'n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld ag ef ac i siopa;
- Pa newidiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn eich tref leol; a
- Pha gamau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol.
Drwy gwblhau ein harolwg byr, bydd eich aelodau yn ein helpu i ddeall yr heriau a'r anawsterau sy'n wynebu ein trefi. Byddwch hefyd yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau lleol i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer ein trefi.
Felly, helpwch eich tref leol drwy gwblhau ein harolwg.
Mae'r arolwg yn ddienw a dylai gymryd rhwng 5 a 10 munud i'w gwblhau.
Bydd eich barn yn ddefnyddiol wrth nodi materion penodol y gellir eu harchwilio ymhellach yn ein hadolygiad ac a grynhoir mewn adroddiad cenedlaethol.
Ni fyddwn yn eich enwi'n uniongyrchol a bydd eich ymatebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Lawrlwythwch ein taflen ar ein hastudiaeth i gael rhagor o wybodaeth – YMA. Mae'r daflen yn esbonio'r hyn rydym yn ei wneud a pham yr ydym yn ei wneud.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bostio Astudiaethau.Cyngor@archwilio.cymru <mailto:Council.Studies(at)audit.wales>
Byddem wrth ein bodd yn derbyn eich mewnbwn!!
#Yourtownyourfuture #Eichtrefeichdyfodol