Eich gwahoddiad i'r rhith GYNHADLEDD A CCB 16eg - 20fed Tachwedd 2020:

Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol a’n Cyfarfod Cyffredinol eleni yn rhithiol a bydd yn gyfle i adfyfyrio ar rôl y sector gwirfoddol wrth gefnogi pobl drwy’r pandemig coronafirws, a sut mae sefydliadau’n cynllunio ar gyfer yr ‘arferolnewydd’.

 

Cyfrif ar Gymunedau; Datblygu'r aeferol newydd

 
Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol a’n Cyfarfod Cyffredinol eleni yn rhithiol a bydd yn gyfle i adfyfyrio ar rôl y sector gwirfoddol wrth gefnogi pobl drwy’r pandemig coronafirws, a sut mae sefydliadau’n cynllunio ar gyfer yr ‘arferolnewydd’.
 
 

Bydd yr wythnos yn cynnwys nifer o weithdai ar-lein yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddatblygu’r ‘arferol newydd’:

ARCHEBWCH YMA A DEWIS EICH GWEITHDA

 

Adferiad Gwyrdd - Adeiladau  

 

Bydd y gweithdy diddorol hwn yn canolbwyntio ar ffyrdd i arbed arian a charbon, efallai: mae pawb ar eu hennill o ganlyniad i wella effeithlonrwydd adeiladau cymunedol - yn arbed costau yn ogystal â charbon. Ymunwch â ni i ddeall mwy am filiau a thariffau, arbed ynni trwy newid arferion ac ymddygiad, a sut y gall gwelliannau syml rhad wneud eich adeilad yn fwy effeithlon o safbwynt ynni. Yn addas i unrhyw un sy’n gysylltiedig â rhedeg neuaddau cymunedol, neuaddau eglwys, clybiau chwaraeon a swyddfeydd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau am eich adeiladau cymunedol unigol.

 

Gweithdy Sefydlogrwydd Ariannol:

 

Mae effaith pandemig Covid-19 ar sefydliadau cymunedol wedi bod yn sylweddol. Mae grantiau a ffrydiau cyllid eraill wedi newid i gefnogaeth ym maes Covid, a daeth y gallu i godi arian trwy siopau elusennol a digwyddiadau cymdeithasol i ben yn llwyr yn ystod y cyfnod clo. Tybed, a yw’n amser inni ail-feddwl y ffordd y cyllidir y gwasanaethau a ddarperir gennym? Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno cysyniadau  ‘meithrin cyfoeth cymunedol’ ac ‘economi sylfaenol’, rôl ‘sefydliadau angori’ a phwysigrwydd yr economi lleol o ran creu sefydlogrwydd ariannol y dyfodol.

 

Adferiad Cydradd  

Crynodeb: Mae Covid-19 wedi effeithio ar bawb, ond cafodd effaith waeth ar rai pobl o’u cymharu ag eraill. Cyfle i glywed sut mae sefydliadau sy’n gwasanaethu’r grwpiau hyn wedi newid eu ffyrdd o weithio, wedi addasu’r gwasanaethau a ddarperir, ac wedi gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i sicrhau na chaiff unrhyw un ei hepgor. Bydd y gweithdy ar ffurf sesiwn panel o arbenigwyr, gyda rhai cwestiynau a baratowyd, a chyfle i’r “gynulleidfa ofyn cwestiynau”.

 

Adferiad Diogel 

 

Ydych chi’n pryderu am redeg eich sefydliad yn ystod cyfnod COVID?  Sut gall sefydliadau symud ymlaen yn ddiogel mewn amgylchfyd sy’n newid mor gyflym, ac sy’n berthnasol i’n bywyd a’n gwaith?

Bydd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau er mwyn i sefydliadau oroesi o’r cyfnod clo yn ddiogel.  Cewch gyfle i ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr ar agweddau amrywiol ar redeg sefydliad yn y trydydd sector. Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gellir gwireddu hynny, gyda’ch pryderon a’ch cwestiynau chi fel sail.

 

Adferiad Digidol 

 

Cyn inni glywed am Covid-19, roedd y byd gwaith yn symud ar-lein mwy a mwy, gyda sgiliau digidol yn fwyfwy pwysig i’r trydydd sector.

Bydd y gweithdy hwn yn ystyried rhai o feysydd allweddol trydydd sector medrus o safbwynt digidol, a’r gefnogaeth sydd ar gael i fagu sgiliau a chapasiti yn y meysydd hyn. Bydd cyfranogwyr yn gallu cyflwyno cwestiynau, ymlaen llaw ac yn ystod y sesiwn, a rhannu eu profiadau ac awgrymiadau ar y ffordd ymlaen tuag at adferiad digidol.

 

Adferiad Cymdeithasol

 

Yn sgil llu o gyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol mewn cymunedau ar draws Powys i helpu darparu cefnogaeth yn ystod pandemig Covid-19, bydd y gweithdy hwn yn clywed gan grwpiau cymunedol am yr hyn a gyflawnwyd, yr hyn maent yn ei ddarparu ar hyn o bryd, a’u cynlluniau o ran parhau i ddarparu cefnogaeth yn y gymuned yn y dyfodol. Bydd y gweithdy’n cynnig yr ysbrydoliaeth a’r cymorth sydd ei angen arnoch i gefnogi’ch cymuned. Bydd yn ystyried yr arfau sy’n cefnogi gwirfoddoli, rhwydweithiau lleol, ac yn rhoi cyfle ichi rwydweithio ac ystyried y rhwystrau sy’n atal cymunedau rhag cefnogi eu hunain.

 

Adferiad Gwyrdd - Trafnidiaeth 

 

Er mwyn gwireddu dyfodol di-garbon, mae’n rhaid inni newid ein harferion teithio, ein ffyrdd o deithio a symud ein nwyddau.  Fodd bynnag, gall y newidiadau hyn olygu fod ein trefi’n lleoedd mwy pleserus o safbwynt byw a gweithio, yn fwy hunan-ddibynol a chydnerth ac i’n helpu byw bywydau iachach a mwy egnïol.  Bydd y sesiwn hwn yn olrhain prif ddarganfyddiadau ym maes trafnidiaeth ymchwil y Ganolfan Dechnoleg Amgen ar thema Prydain Di-garbon.

 

Adferiad Iachus 

 

Os ydy’ch sefydliad chi’n awyddus i ddarparu gwasanaethau uchel eu safon a chefnogaeth ragorol i gleientiaid, mae’n hanfodol i’ch gwirfoddolwyr a staff fwynhau’r llesiant gorau posib. Mae’r heriau sydd wedi dod i’r amlwg trwy Covid-19 wedi effeithio ar iechyd meddwl a llesiant pob un ohonom i raddau. Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar sut i wneud y defnydd gorau o lesiant eich gweithlu, gan gynnwys delio gyda phroblemau mwy sensitif megis pryder a straen a rheolaeth perfformiad cysylltiedig, a bydd hefyd yn edrych ar yr heriau potensial fydd yn dod i’r golwg yn ystod misoedd y gaeaf.  Trwy ddefnyddio taith  PAVO fel esiampl, bydd y Gwasanaethau Mewnol yn cydweithio gyda Mind Canol a Gogledd Powys i ddarparu syniadau i sefydliadau datblygu cynlluniau i gefnogi llesiant sefydliadol a chyfle i brofi rhai enghreifftiau ymarferol o weithgareddau llesiant.

 

ARCHEBWCH YMA A DEWIS EICH GWEITHDA

 

Ethol Ymddiriedolwyr ar gyfer 2020

 

Mae PAVO yn gwahodd enwebiadau gan unigolion sy'n dymuno sefyll i'w hethol i'w Bwrdd Ymddiriedolwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 20fed Tachwedd 2020. Gellir dod o hyd i'r dogfennau priodol trwy'r ddolen isod neu os oes angen copïau wedi'u postio atoch, Cysylltwch â ni.

Recriwtio Ymddiriedolwyr PAVO

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw'r  23ain Hydref 2020, hanner dydd.

Rhannwch y wybodaeth hon i unrhyw un eich bod yn adnabod a allai fod â diddordeb mewn sefyll. Rydym yn chwilio am enwebeion sydd â sgiliau, gwybodaeth neu arbenigedd a fydd yn cryfhau’n rheolaeth y sefydliad ymhellach.

Rhaid i enwebiadau gael ei gymeradwyo gan aelod-sefydliad PAVO, ond nid oes angen i enwebeion fod yn aelod o'r sefydliad hwnnw. 

Nid yw ymddiriedolwyr yn cael eu talu, ond ad-delir yr holl gostau sy'n gysylltiedig â’r rôl. 

I gael mwy o wybodaeth am PAVO cliciwch yma neu cysylltwch ag Angela Owen, Plas Dolerw, Y Drenewydd, SY16 2EH 01686 626220 angela.owen@pavo.org.uk.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity