Rhannwch y gwahoddiad hwn gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n gweithio gyda chydraddoldeb a gyda’ch aelodau neu eich unigolion amrywiol. Mae unigolion amrywiol yn cynnwys pobl hŷn, iau, Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig, anabl, lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws; pobl o wahanol grefyddau a chredoau; pobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth; a merched a dynion.
Mae’r Cyrff Cyhoeddus yn cynnwys: Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Comisiynydd y Gymraeg (CyG), Gyrfa Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Chwaraeon Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Felindre.
Mae dogfen yr ymgynghoriad ar gael yma
Hefyd mae gennym ni arolwg ar-lein yma
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ddydd Sul 26ain Ionawr 2020. Atebwch yr ymgynghoriad hwn erbyn dydd Sul 26ain Ionawr 2020.
Rydym yn croesawu eich ymatebion yn gynharach, os yn bosib. Bydd ymatebion cynharach yn ein helpu ni i gynllunio’r digwyddiadau ymgysylltu. Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu ni i gytuno ar ein Hamcanion Cydraddoldeb a’r camau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith i gyflawni pob amcan.
Mae’r ymgynghoriad hwn ar gael mewn print mawr ac fel dogfen Word yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Diverse Cymru.
Os hoffech gael copi wedi’i argraffu o’r ddogfen drwy’r post neu ar e-bost cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni os ydych eisiau’r ymgynghoriad hwn mewn fformat gwahanol (er enghraifft Braille, ar bapur lliw gwahanol, neu fel ffeil sain).
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy wneud y canlynol:
Llenwi’r arolwg ar-lein yma
Neu anfon eich ymateb i Diverse Cymru fel a ganlyn:
• E-bost: Research(at)diverse.cymru
• Ffôn: 029 2036 8888. Gofynnwch am Georgia Marks neu Shelagh Maher.
• Post: Diverse Cymru, 3ydd Llawr, Tŷ Alexandra, 307-315 Heol Ddwyreiniol Y Bontfaen, Caerdydd, CF5 1JD
Os hoffech gael help gydag ymateb, cysylltwch â ni ar 029 2036 888 a gofyn am Shelagh Maher neu Georgia Marks neu anfon e-bost i research(at)diverse.cymru. Gallwn ddarllen y cwestiynau i chi ac ysgrifennu eich ymateb gyda chi.
Digwyddiadau lleisio eich barn
Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu am yr Amcanion Cydraddoldeb hyn.
Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i chi ddweud pa gamau gweithredu y dylem eu rhoi ar waith i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.
Rydym yn croesawu partneriaid darparu a rhanddeiliaid, unigolion amrywiol a grwpiau cymunedol a mudiadau’r trydydd sector yn y digwyddiadau hyn.
Mae unigolion amrywiol yn cynnwys y canlynol:
• Pobl ifanc dan 26 oed
• Pobl hyn dros 50 oed
• Pobl Ddu a Lleiafrif Ethnig, gan gynnwys Sipsi, Roma a Theithwyr
• Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
o Pobl â nam ar y symud. Er enghraifft, defnyddwyr cadair olwyn neu
bobl â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i gerdded.
o Pobl â nam ar y synhwyrau. Er enghraifft, pobl Ddall, Byddar neu
drwm y clyw.
o Pobl ag anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig neu bobl â
dyslecsia neu ddyspracsia.
o Pobl â namau gwybyddol. Er enghraifft, pobl â dementia neu
hydroceffalws.
o Pobl â chyflyrau iechyd tymor hir. Er enghraifft, HIV, diabetes neu
sglerosis ymledol.
• Pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol
• Pobl draws
• Pobl o grefyddau a ffydd wahanol
• Merched a dynion.
• Pobl sy’n feichiog neu famau newydd.
Canolbarth Cymru
Adeiladau Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
- Dydd Mawrth 26ain Tachwedd 2019
- Cofrestru: 9:30 am
- Digwyddiad: 10 am i 1 pm
- Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Gorllewin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Oystermouth, Y Chwarter Morol, Abertawe, SA1 3RD
- Dydd Iau 28ain Tachwedd 2019
- Cofrestru: 9:30 am
- Digwyddiad: 10 am i 1 pm
- Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
De Ddwyrain Cymru
Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
- Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2019
- Cofrestru: 9:30 am
- Digwyddiad: 10 am i 1 pm
- Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Gogledd Cymru
Ystafell Dinorwig, Pontio, Ffordd Ffriddoedd, Bangor LL57 2TR
- Dydd Llun 2il Rhagfyr 2019
- Cofrestru: 9:30 am
- Digwyddiad: 10 am i 1 pm
- Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Defnyddiwch y manylion cysylltu uchod ar gyfer Diverse Cymru i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Dywedwch wrthym a ydych eisiau cyfrannu yn y Gymraeg neu yn Saesneg; am unrhyw ofynion sydd gennych chi o ran deiet; ac am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych chi, wrth gofrestru.
Gallwn ad-dalu costau teithio, gofal plant, gofal llanw, mynediad a chostau tebyg ar gyfer unigolion amrywiol. Cysylltwch â ni cyn y digwyddiad am wybodaeth.