Mae'r Newid yn yr Hinsawdd yn digwydd yn agos i gartrefi llawer ohonom ym Mhowys. Rydym eisoes yn gweld mwy o dywydd eithafol ac wrth inni adfer o covid cawn gyfle i geisio adeiladu'n ôl yn well a chael adferiad gwyrdd, carbon niwtral.
Fis Medi 2020, datganodd Cyngor Sir Powys argyfwng hinsawdd a chytunodd ar gynnig trawsbleidiol ar newid yn yr hinsawdd. Fis diwethaf, cynhaliodd y cyngor ddigwyddiad COP Cymru gyda'r arweinydd yn rhannu arfer gorau a phrosiectau arloesol gyda chynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a'r DU. Mae'r strategaeth ddrafft ar yr hinsawdd, sef Gweledigaeth a Strategaeth Hinsawdd y Barcud Coch, yn adeiladu ar y camau hyn ac yn amlygu sut mae gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn bodloni pedair colofn Gweledigaeth 2025 y cyngor ac yn nodi'r uchelgais ar gyfer y dyfodol
"Mae Powys bob amser wedi bod yn sir flaengar - gyda chymunedau'n angerddol ac wedi ymrwymo i ofalu am yr amgylchedd ac yn fodlon mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd," esbonia'r Cynghorydd Rosemary Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys.
"Nid yw hi ond yn iawn ein bod ni, fel cyngor, yn cynyddu ein hymdrechion i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, ein nod yw bod yn rym blaenllaw wrth wneud dewisiadau gwyrddach a pharhau â'r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd ymhob ran o'r sir i'n tywys ar y llwybr tuag at leihau ein gollyngiadau carbon i sero net erbyn 2030."
Ar hyn o bryd mae'r strategaeth ddrafft yn cyfuno awgrymiadau gan staff a'r gymuned, gyda mewnbwn gan y pwyllgor ar newid yn yr hinsawdd, Cyngor Partneriaeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Climate Emergency UK, a sawl grŵp arall. Drwy'r strategaeth hon, nod y cyngor yw chwarae ei ran wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy hwyluso newid a darparu arweinyddiaeth ddinesig ar draws y sir a fydd yn annog eraill i ddilyn. Fodd bynnag, nid yr awdurdod lleol yn unig sy'n gyfrifol am wneud y newidiadau hyn ac mae'r cyngor yn awyddus i weithio gyda'r holl randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod camau digonol yn cael eu cymryd a bod cynnydd yn digwydd.
Mae copi drafft o Weledigaeth a Strategaeth Hinsawdd y Barcud Coch ar gael i'w weld ar-lein tan 7 Ionawr, a byddai'r cyngor yn croesawu adborth ac awgrymiadau ar gyfer cyfraniadau pellach tuag at ddyfodol gweithredu ar dynged yr hinsawdd ym Mhowys.
I weld copi o'r strategaeth ddrafft a rhoi eich adborth i ni, ewch i:
Saesneg: https://www.haveyoursaypowys.wales/climate-strategy
Cymraeg: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/strategaeth-hinsawdd