Yma yng Nghyngor Iechyd Cymuned Powys, ein gwaith ydy monitro ac argymell gwelliannau i’r gwasanaethau iechyd a dderbynnir ledled Powys, lle bo’r angen.
Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto lle mae Cyngor Iechyd Cymuned Powys (CIC) yn gofyn ichi am eich barn a’ch syniadau ar yr hyn rydych chi’n ei feddwl y DYLEN ni ei wneud er mwyn cynrychioli orau trigolion Powys, mewn perthynas â’u Gwasanaeth Iechyd.
Er mwyn helpu gyda’r broses hon, fe fasen ni, fel CIC, yn ddiolchgar petaech chi’n gallu rhoi eich ymateb i’r cwestiynau canlynol erbyn 4.00 yp ar Ragfyr 13eg, 2019. Teimlwch yn rhydd i anfon yr e-bost hwn ymlaen at unrhyw fudiad neu gydweithwyr a fyddai’n elwa, yn eich tyb chi, o gael cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Po fwyaf o ymatebion a gaiff CIC, po fwyaf cynhwysfawr fydd y Cynllun Gweithredol wrth symud ymlaen i 2020, a phoblogaeth Powys yn elwa fwyfwy fel canlyniad.
Er mwyn mynd at yr arolwg byr, cliciwch yma
Fel arall, os hoffech gopi caled o’r ddogfen hon, cysylltwch â:
Flora Buckle – Swyddog Monitro a Chraffu, trwy e-bostio flora.buckle2(at)waleschc.org.uk
Mae CIC yn ddiolchgar am eich cymorth. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych erbyn 4.00 yp ar ddydd Gwener, Rhagfyr 13eg.