Cyngor Iechyd Cymuned Powys- Rydym yn chwilio am aelodau!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi barn cleifion wrth galon gwella gwasanaethau iechyd cenedl? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o bob cefndir, i'n helpu i adlewyrchu dyheadau ac anghenion poblogaeth Cymru gyfan i ddatblygu'r GIC yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae aelodau Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn wirfoddolwyr lleol sydd yn gweithredu fel llygad a chlust cleifion a'r cyhoedd, gan wrando ar eu pryderon a gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y rôl aelod trydydd sector hon gael eu henwebu gan sefydliad cymunedol / gwirfoddol.
Mae gofal i gleifion wrth galon y GIC, a'r CICau ydy llais annibynnol cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru.
Gofynnir i aelodau neilltuo rhwng tri a phump diwrnod y mis ac fe gaiff unrhyw gostau 'allan o boced' eu had-dalu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch Sue Newham:
07739 984233 - sue.newham(at)pavo.org.uk
Dyddiad cau 30aim Tachwedd 2020