Cymunedau Digidol Cymru

Mae’r byd yn peri cryn bryder ar hyn o bryd, yn enwedig i bobl sy’n wynebu’r posibilrwydd o ymneilltuo am gyfnodau o rhwng 2 a 12 wythnos.

Annwyl gydweithwyr a ffrindiau,

Mae’r byd yn peri cryn bryder ar hyn o bryd, yn enwedig i bobl sy’n wynebu’r posibilrwydd o ymneilltuo am gyfnodau o rhwng 2 a 12 wythnos.

Er hynny, mae dau beth cadarnhaol iawn yn dod i’r meddwl. Y cyntaf yw bod hwn yn gyfnod lle gall technoleg a gweithgareddau cynhwysiant digidol ddod i’r adwy a gwneud cyfraniad pwysig at gefnogi pobl mewn cyfnod anodd. Os gall yr henoed neu bobl agored i niwed yn ein cymdeithas gael mynediad i dechnoleg ddigidol a’i defnyddio dros yr wythnosau nesaf, mae’n golygu y byddant yn gallu cadw cysylltiad, cymdeithasu ar-lein, siopa am fwyd, dod o hyd i wybodaeth iechyd a chael gafael ar adnoddau a gweithgareddau i’w cadw’n brysur.

Yn ail, nid yw’r sefydliadau sy’n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi’r mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ddydd a nos, ar eu pen eu hunain. Mae Cymunedau Digidol Cymru a’i dîm o hyfforddwyr a chynghorwyr arbenigol wrth law i helpu i gael eich cleientiaid a defnyddwyr eich gwasanaethau ar-lein. Gallwn ddarparu cyngor ar y ffôn neu drwy fideo-gynadledda - ffoniwch ni ar 0300 111 5050 neu e-bostiwch digitalcommunities(at)wales.coop os ydych chi angen ein cymorth.

Mae pethau’n newid yn gyflym, rydym ni’n gweithio fel tîm i ddatblygu adnoddau penodol a fydd yn hygyrch yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf ar ein gwefan Cymunedau Digidol Cymru. Yn y cyfamser, bwrwch olwg ar y dolenni hynod ddefnyddiol rydym wedi’u rhestru isod i’ch rhoi ar ben ffordd.

Cymerwch ofal ohonoch chi’ch hun a’ch gilydd,

Lara Ramsay, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol

Canolfan Cydweithredol Cymru

 

  • Byddwch yn gyfaill digidol

Cyfeillion Digidol yw pobl sy’n helpu ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu i allu mynd ar-lein a defnyddio technoleg. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd angen cymorth un-i-un gan wyneb y gall ymddiried ynddo, rhowch wybod iddynt eich bod yn barod i’w helpu. Er na fyddwch chi’n gallu eu helpu wyneb yn wyneb (os oes ganddynt gyflwr iechyd eisoes neu os ydynt yn agored i niwed, mae’n rhaid i chi gadw draw er mwyn rheoli lledaeniad y feirws), gallwch eu tywys drwy dasgau syml ar y ffôn.

 

  • Learn my Way – dysgu sut sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd

Gwefan o adnoddau ar-lein am ddim yw Learn My Way sydd wedi’i llunio gan ein partneriaid, Good Thjings Foundation, i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol.

Mae’r wefan yn cynnwys dros 30 o gyrsiau am ddim i helpu pobl sy’n mynd ar-lein am y tro cyntaf – defnyddio llygoden, bysellfwrdd, agor cyfrif e-bost a defnyddio peiriannau chwilio’r rhyngrwyd –yn ogystal â chynnig digonedd o gymorth i bobl allu datblygu eu sgiliau digidol ymhellach. Mae modiwlau i helpu wneud galwadau fideocymdeithasu ar-lein a siopa ar-lein sy’n ddefnyddiol dros ben er mwyn i bobl gadw mewn cysylltiad yn y cyfnod anodd hwn.

Cyfeiriwch bobl at yr adnoddau defnyddiol hyn. Gallech chi weithio drwy’r modiwlau gyda nhw dros y ffôn hyd yn oed os oes angen cymorth arnyn nhw.

 

  • Sut mae diogelu eich iechyd meddwl

Gall yr argyfwng COVID-19 fod yn anodd i bobl. Gall ofn a phryder am glefyd fod yn llethol ac achosi emosiynau cryf ymysg oedolion a phlant. Bydd ymdopi gyda straen a gofalu am eich iechyd meddwl yn eich gwneud chi, y bobl sy’n bwysig i chi a’ch cymuned yn gryfach. Mae llawer o gyngor ac erthyglau newyddion ar-lein i helpu pobl drwy’r cyfnod hwn o newid.

Enghraifft

BBC News: Coronavirus: How to protect your mental health
 

  • Cyfeirio pobl at wefannau gwybodaeth iechyd dibynadwy

Ble ddylai defnyddwyr eich gwasanaethau edrych er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa sy’n newid mor gyflym? Rydym ni’n gwybod bod llawer o wybodaeth ddefnyddiol a dibynadwy ar-lein, ond mae llawer o wybodaeth anghywir hefyd. Cadwch at wefannau llywodraeth swyddogol a gwefannau iechyd rhyngwladol achrededig:

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Galw Iechyd Cymru

Llywodraeth y DU

Sefydliad Iechyd y Byd

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity