Bydd darparu ar gyfer adferiad o'r argyfwng iechyd cyhoeddus yn cynrychioli'r her fwyaf yr ydym wedi'i hwynebu fel Llywodraeth Ddatganoledig. Bydd y gwaith hanfodol yma yn effeithio pob agwedd o fywydau pobl Cymru a bydd yn hynod o bwysig i gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer yr economi a chymdeithas.
Nid oes amheuaeth ein bod yn wynebu heriau enfawr, digynsail. Wrth i ni blotio cwrs at adferiad ac ailadeiladu, bydd ein dull yn seiliedig ar yr un gwerthoedd - ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol - a bydd yn ymwreiddio ein rhwymedigaethau i'r rhai sy'n ein dilyn ochr yn ochr â'r rhai sy'n byw trwy Covid19, o dan y Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae ein gwerthoedd yn parhau, ond bydd angen i ni fod yn ddi-ofn ac yn radical wrth gweithredu lens y realiti ôl-Covid newydd i'n polisïau sefydledig. Ni fydd nifer o'r pethau sydd wedi gweithio yn y gorffennol bellach yn addas i’r diben. Bydd angen i ni ddangos hyblygrwydd a dychymyg wrth werthuso ein dulliau cyfredol ac wrth ddatblygu rhai newydd. Dyna pam, yn ogystal â thynnu ar feddwl o fewn y Llywodraeth, rydym hefyd yn benderfynol i edrych y tu allan am her i'n ffyrdd sefydledig o feddwl ac am ysbrydoliaeth ffres.
Rydym yn ymestyn gwahoddiad i bobl yng Nghymru i anfon eu meddylion atom ar sut y dylwn gefnogi adferiad ac ailadeiladu ôl-Covid yn y dyfodol yng Nghymru. Mae gennym gyfeiriad e-bost pwrpasol –cymrueindyfodol@llyw.cymru - a hoffwn glywed eich meddylion ar sut y gallwn lunio ein dyfodol yng Nghymru. Hoffwn glywed gan y bobl yng Nghymru am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ac am lle y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion adferiad. Rydym yn gofyn i bobl anelu at wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Bydd hynny ymhell o ddiwedd y sgwrs genedlaethol hollbwysig yma, ond rydym am helpu i ganolbwyntio ymdrechion pobl wrth gyfrannu at ein dealltwriaeth a'n meddwl yn y camau cynnar hyn.