Cylchlythyr y sector busnes cymdeithasol: Diweddariad Coronafeirws ac adnoddau defnyddiol ar gyfer busnesau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn

Datganiad gan Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter Canolfan Cydweithredol Cymru:

Mae'r byd yn lle pryderus ar hyn o bryd. Mae pobl yn wynebu cyfnod o ansicrwydd digynsail. Yn ogystal â meddwl am iechyd eu teuluoedd a'u cyd-weithwyr, mae pobl hefyd yn ystyried y ffordd orau o gefnogi eu cymunedau lleol a'u grwpiau defnyddwyr (lle y mae llawer ohonynt yn agored i niwed), ac yn ystyried sut y gallai mentrau cymdeithasol ymdopi pe bai eu hincwm yn prinhau neu eu staff yn cael eu taro'n wael.

 

Er gwaethaf hyn, mae gen i ddau bwynt cadarnhaol iawn. Yn gyntaf, mae hwn yn gyfnod lle gall mentrau cymdeithasol gamu i'r adwy a gwir wreiddio eu hunain. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld y ffordd anhygoel y llwyddodd mentrau cymdeithasol i gefnogi cymunedau lleol yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd, ac rydym 'nawr yn gweld sefydliadau'n cynnig help a chymorth mewn amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer pobl y mae'r feirws yn effeithio arnynt.

 

Yn ail, nid yw mentrau cymdeithasol ar eu pennau eu hunain. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru, ynghyd â'i dîm o gynghorwyr arbenigol, wrth law i ddarparu cymorth mewn perthynas ag ymholiadau'n ymwneud â llif arian, Adnoddau Dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu, yn ogystal ag amrywiaeth o feysydd eraill y gellid bod angen eu hailystyried yn sgil y sefyllfa bresennol. Gallwn ddarparu cyngor dros y ffôn neu drwy fideogynadledda — os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch 0300 111 5050 neu anfonwch neges e-bost i sbwenquiries(at)wales.coop. Mae pethau'n symud yn gyflym iawn, ac rydym yn gweithio fel tîm i ddatblygu offer penodol a fydd yn hygyrch yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf: www.businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy

 

Dolenni defnyddiol:

 

Benthyciadau llwybr cyflym brys gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau'r llifogydd diweddar, mae'r coronafeirws yn gosod yr her nesaf. Mewn ymateb i hyn, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig benthyciadau llwybr cyflym brys i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn eu helpu i ymdopi â'r effeithiau gwaethaf. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

 

Busnes Cymru:

Dilynwch yr wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws gan Busnes Cymru yma: https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws

 

Defnyddio technoleg:

Gyda rhagor o bobl yn aros yn eu cartrefi, gall technoleg ein helpu i barhau mewn cysylltiad a helpu i gynnal ein busnesau. Gall cyfarfodydd a digwyddiadau rhithwir ein helpu i gefnogi ein gilydd, ynghyd â'r achosion sydd agosaf atom. Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys y rhaglen Learn My Way, sy'n cynnwys cyrsiau cam wrth gam rhad ac am ddim yn ymdrin â phynciau tebyg i fideogynadedda, gwylio a gwrando ar-lein, a chymdeithasu ar-lein. Bydd canllaw ymarferol CAST ar gyfarfodydd o bell hefyd yn ddefnyddiol i sefydliadau.

 

Cyngor Adnoddau Dynol:

Mae gan Co-operatives UK wybodaeth ddefnyddiol am y modd y mae amddiffyn gweithwyr rhag lledaeniad yr haint a sut y mae ymdrin â sefyllfaoedd penodol sy'n gysylltiedig â lledaeniad y feirws.

 

Coronafeirws: Sut y gall mentrau cymdeithasol ac elusennau baratoi:

Mae gan y School for Social Entrepreneurs gyngor ar gyfer mentrau cymdeithasol yn ymwneud â pharhau i gefnogi cleientiaid a buddiolwyr, cynllunio busnes a chynllunio cyfathrebu.

 

Ac yn olaf ...

Nid yw popeth yn ddu i gyd. Rydym wedi gweld straeon cadarnhaol lle mae cymunedau a busnesau yn y gymuned yn dod at ei gilydd i wynebu'r heriau y mae Covid-19 yn eu cyflwyno. Fel sefydliadau sy'n seiliedig ar werthoedd, rydym yn gwybod y bydd ein sector yn dod ynghyd ac yn darparu ar gyfer y bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a hynny hyd eithaf ein gallu. Helpwch ni i ledaenu newyddion da a phositifrwydd yn ystod yr hyn a all deimlo fel cyfnod tywyll. Rhowch wybod i ni sut y mae eich busnes cymdeithasol yn helpu pobl i ddelio â'r epidemig hwn, a byddwn yn rhannu hyn yn eang ar sianeli ein cyfryngau cymdeithasol a'n blog

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity