Cyfle olaf am Hyfforddiant sydd AM DDIM

Ymunwch â'r 220 o gyfranogwyr sydd eisoes wedi manteisio ar hyfforddiant datblygu ar-lein.

Am gyfnod o newid ac ansicrwydd rydyn ni i gyd yn mynd drwyddo! Ailddechreuodd Tîm Datblygu PAVO hyfforddiant o ddifrif ym mis Tachwedd, gan symud o ddanfoniad wyneb-yn-wyneb cyn-bandemig i gyflenwi cwbl ar-lein yn bennaf. Ers hynny rydym wedi cynnal 24 sesiwn hyfforddi, sydd am ddim ac wedi hyfforddi cyfanswm o 220 o gyfranogwyr mewn dim ond 17 wythnos. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan ac a wnaeth y rhaglen yn gymaint o lwyddiant.

… ac mae dal mwy i ddod!

Mae chwe chyfle arall o hyd i fanteisio ar y cynnig hyfforddi am ddim hwn cyn i ni fabwysiadu strwythur prisio newydd ym mis Ebrill.

Mae'r cyrsiau poblogaidd  a hanfodol ar Ddiogelu yn parhau. Bydd Michael Entwistle yn cynnal sesiynau ar foreau’r 10fed, 18fed, a’r 30ain o Fawrth - a hefyd yn y prynhawn ar yr 22ain - pob un yn dwy awr a hanner o hyd.

Mae yna hefyd ddwy sesiwn arall, awr a hanner, yn ein *Cyfres Fach ar Lywodraethu*:

  • Dydd Mawrth 9fed @ 1.30 yp - Rhedeg eich CCB ar-lein gyda Flo Greaves

  • Dydd Mercher 17eg @ 1.30 yp - Cyllid Elusennnau ac Di-elw gyda George Stroud

Archebwch lle ar y crysiau uchod ar-lein yma a gwnewch yn siŵr nad ydych chi a'ch mudiad yn colli allan.

I'r rhai ohonoch sy'n arbennig o awyddus, bydd manylion ar ein hyfforddiant yn Ebrill yn cael ei ryddhau'r wythnos yn dechrau 22ain Mawrth.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity