Cyfle ar gyfer Pobl Ifanc 16-25 oed i fod yn Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Mae Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Cymru (YES) 2010-15 wedi arwain rhaglen o waith i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymr

Drwy adeiladu ar strategaeth YES, mae Cyfnewidfa Entrepreneuriaeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws Cymru er mwyn cael ecosystem entrepreneuraidd ieuenctid sy’n amlwg, yn syml ac yn gyd-gysylltiedig yng Nghymru.  

 

Fel rhan o waith Cyfnewidfa Entrepreneuriaeth Cymru, rydyn ni’n bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr rhwng 16 a 25 oed i ffurfio rhwydwaith o Asiantiaid Entrepreneuriaeth Ieuenctid sy’n cynrychioli llais entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru.  

Bydd y swydd yn weithredol o fis Mawrth i fis Ebrill 2021 a bydd gofyn i’r bobl ifanc roi uchafswm o 12 awr o’u hamser a chyfrannu mewn 4 cyfarfod rhithiol. 

Hefyd, bydd aelodau o’r rhwydwaith Asiantiaid Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn cael manteisio ar ddosbarthiadau meistr arbennig, er mwyn iddyn nhw allu datblygu’n arweinwyr entrepreneuraidd y dyfodol. 

Rydyn ni’n chwilio am geisiadau gan bobl ifanc sy’n dyheu i fod yn rheolwyr arnyn nhw eu hunain rhyw ddiwrnod ac sydd o bosib yn gweithio tuag at ddechrau eu busnes eu hunain neu sydd wedi dechrau busnes yn barod. Mae’r holl wybodaeth ynglŷn â’r cyfle hwn, gan gynnwys dolenni at ffurflen gais syml, i’w chael yn yr wybodaeth/taflenni atodol. 

 

Does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd dros y 12 mis nesaf. Ond fe allwn ni ragweld y bydd hyn yn achosi heriau sylweddol i bobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig i’r rheini sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Y bwriad yw bod yr Asiantiaid Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn sicrhau bod pobl ifanc yn rhanddeiliaid allweddol, er mwyn rhoi gwybod i ni am feddyliau a syniadau pobl ifanc ynglŷn â hunangyflogaeth, gan gynnwys effaith COVID 19. 

Bydden ni’n ddiolchgar iawn petaech chi’n rhannu’r cyfle hwn gyda phobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw neu yn eu cefnogi. Mae yna becyn i bartneriaid wedi’i atodi, - efallai yr hoffech chi roi gwybod am y cyfle ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. 

Mae croeso i chi rannu’r wybodaeth hon gyda phartneriaid/rhwydweithiau rydych chi’n teimlo y byddai o ddiddordeb iddyn nhw. 

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Penny Matthews ar penny.matthews(at)bigideaswales.com neu Carolyn Goodwin ar carolyn.goodwin(at)bigideaswales.com

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity