Cwrdd â’r Cyllidwr: Plant mewn Angen

Dydd Gwener 19eg Mehefin 2020 - 2pm.

Sicrhewch eich tocynnau yma!

Cwrdd â’r Cyllidwr: Plant mewn Angen

Yn dilyn ymlaen o lwyddiant y Big Night In a chyllid cyfatebol gan Lywodraeth y DU, mae Plant mewn Angen wedi lansio Grant Camau Nesaf Covid-19. Y rhaglen Camau Nesaf yw rhaglen ymateb Plant mewn Angen y BBC, sydd wedi’i dylunio i roi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan bandemig COVID-19.

Bydd mudiadau cymwys yn gallu gwneud cais am hyd at £80,000 ar gyfer prosiectau sy’n dechrau ym mis Medi 2020.

Gall y grantiau hyn bara am hyd at 18 mis. Mae’r grant wedi’i ddylunio ar gyfer mudiadau sefydledig sydd eisoes yn gwneud gwaith yn eu cymunedau a thu hwnt.

Mae’n bleser gan CGGC groesawu James Bird, Swyddog Cenedlaethol Plant mewn Angen Cymru’r BBC, mewn digwyddiad ar-lein, Cwrdd â’r Cyllidwr. Bydd James yn rhoi cyflwyniad ar y Grant Camau nesaf ac yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r rhai fydd yn mynychu.

Am ddim i fynychu.

Cliciwch yma i archebu'ch tocynnau

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity