'Cwrdd â'r Cyllidwr': Cofrestrwch nawr i ymuno â Loteri Cod Post y Bobl ar-lein

Mis Awst yma, diolch i chwaraewyr Loteri Côd Post y Bobl, bydd pedair Ymddiriedolaeth gyda ffocws gymunedol yn lansio eu rownd ariannu diweddaraf.

Bydd Ymddiriedolaeth Côd Post y Bobl, Ymddiriedolaeth Côd Post Cymunedol, Ymddiriedolaeth Côd Post Lleol a’r Ymddiriedolaeth Cymdogaeth Côd Post yn agor am geisiadau o’r 4 Awst.

Ar y cyd â Chefnogi Trydydd Sector Cymru, hoffem eich gwahodd i fynychu gweithdy ‘Sut i Wneud Cais am Gyllid’ ar-lein, lle byddwn yn amlinellu'r newidiadau diweddaraf i'n proses ymgeisio, yn rhoi manylion y newidiadau i'r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys ein Hymddiriedolaeth Cymdogaeth Côd Post newydd sbon. Bydd hwn yn gyfle gwych i holi am y broses ymgeisio, neu drafod unrhyw syniad sydd gennych â ni.

 

Bydd y sesiwn yn rhedeg ar-lein (Zoom) o 10yb – 11.30yb ar Ddydd Mercher 29  Gorffennaf 2020.

 

I gofrestru, anfonwch e-bost at: fund(at)postcodelottery.co.uk erbyn 20 Gorffennaf gan nodi ‘gweithdy TSSW’ yn y pennawd.

Cofiwch gynnwys enw eich sefydliad a'r sir rydych chi wedi'i lleoli yn eich e-bost.

Bydd dolen i'r digwyddiad yn cael ei hanfon allan fore'r sesiwn.

Sylwch y bydd y sesiwn yn rhedeg trwy gyfrwng Saesneg.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity