CRONFA GWYDNWCH CYMUNEDOL LLINELL CALON CYMRU

Mae Cwmni Datblygu Llinell Calon Cymru wedi penderfynu sefydlu cronfa grant untro er mwyn cefnogi cymunedau ar hyd y llinell.

Mae'r broses ymgeisio bellach yn FYW!


Mae Cwmni Datblygu Rheilffordd Calon Cymru wedi penderfynu sefydlu cronfa grantiau unigol i gefnogi cymunedau ar hyd y lein. Cyn dyfodiad Coronafeirws, byddem wedi defnyddio’r cyllid i ddatblygu prosiectau partneriaeth mewn cymunedau lleol; fodd bynnag, eleni, nid yw’n ddiogel nac yn ymarferol gwneud hynny. Felly, byddem yn hoffi defnyddio’r adnoddau sydd gennym i gyllido sefydliadau’n uniongyrchol ar adeg heriol, a thrwy hyn, meithrin cysylltiadau newydd, cadarnhaol gyda’r cymunedau ar hyd y lein.

Yn ddiweddar, mae nifer o gronfeydd cyllid wedi agor, wrth ymateb i Coronafeirws, a dylai sefydliadau gwneud cais i’r rhain os yn bosib, os bydd y prosiect yn ymwneud â hynny’n benodol. Am fwy o wybodaeth am y cronfeydd hyn, ewch ar wefannau’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol (CGS) (gweler y dolenni isod) neu dudalennau’ch cyngor lleol, lle ceir hyd i lawer o wybodaeth am grantiau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

 

Diben y gronfa newydd hon yw cefnogi cadernid a chynaliadwyedd sefydliadau sydd wedi dioddef yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd y pandemig. Hwyrach y bu’n rhaid rhoi’r gorau i ddigwyddiadau codi arian ac mae ffrydiau incwm arferol eraill wedi diflannu, neu hwyrach bod costau wedi cynyddu oherwydd eich bod yn defnyddio mwy o wirfoddolwyr. Y prif feini prawf yw bod grwpiau’n gallu dangos sut bydd y cyllid yn helpu cynnal y sefydliad yn y dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau’n parhau. Nid oes angen cysylltiad uniongyrchol â’r pandemig o reidrwydd. Hefyd bydd angen i’r grŵp nodi sut bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio, a sut mae’r gymuned leol yn elwa o
hyn. Bydd angen gwario’r grant erbyn mis Chwefror 2021, felly nid yw’n bosib ei gadw wrth gefn.


 Beth yw Cwmni Datblygu Rheilffordd Calon Cymru?


Sefydliad dielw yw’r cwmni, sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r rheilffordd ddeniadol hon a’r trefi a’r pentrefi a wasanaethir gan y lein. Mae gennym brydles ar Orsaf Llanymddyfri, sydd â chaffi llwyddiannus, dan arweiniad gwirfoddolwyr, a thrwy Grŵp Llywio, rydym yn rheoli Llwybr Cerdded Rheilffordd Calon Cymru, llwybr 141 milltir o hyd, sydd wedi ennill nifer o wobrwyon, eto dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae’r cwmni’n cael ei gyllido’n bennaf trwy grantiau gan gwmnïau trenau, Trafnidiaeth Cymru’n bennaf, a nhw yw ‘Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol’ (PRhC) dynodedig y lein. Yn ogystal â hyrwyddo a chefnogi’r rheilffordd, un o dasgau’r PRhC yw gweithio gyda chymunedau ar hyd y lein ar brosiectau cymdeithasol ac economaidd, ac mae’n gweithio i sicrhau fod y rheilffordd yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb. Mae’n wahanol i HOWLTA, sef y Gymdeithas i Deithwyr, sydd yn gorff ar wahân ar gyfer ‘defnyddwyr y rheilffordd’.


Ceir mwy o wybodaeth yma: www.heart-of-wales.co.uk


 Faint o arian sydd yn y gronfa?

Mae £10,000 yn y gronfa. Rydym wedi cyfrannu £5,000 ac mae Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno’n hael iawn i roi swm cyfatebol trwy eu Cronfa Grantiau Cymunedol. Gall pob sefydliad wneud cais am uchafswm o £500 yr un.


 Pwy sy’n gymwys?


Gall unrhyw sefydliad cymunedol, elusen, CBC neu grŵp sydd â chyfrif banc ac a leolir o fewn 10km/6milltir i un o Orsafoedd Rheilffordd Calon Cymru ymgeisio am grant. Os na leolir y sefydliad o fewn y pellter uchod, ond mae’n gallu dangos sut y bydd y cyllid grant yn cefnogi cymuned o fewn y pellter hwnnw, byddai hynny’n dderbyniol. Ni chaniateir i unigolion, busnesau a chyrff statudol ymgeisio, ac nid yw elusennau cenedlaethol yn gallu ymgeisio oni bai taw cangen leol sy’n cyflwyno’r cais. Gall sefydliadau crefyddol ymgeisio mor bell na fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ffydd neu gred benodol.


Nid oes rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig, ond mae’n rhaid bod yn grŵp cyfansoddedig gyda chyfrif banc. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall grwpiau ymgeisio trwy sefydliad nawdd os nad oes ganddynt gyfrif banc, ond mae’n rhaid gallu dangos eu bod yn gallu cyflenwi’r prosiect yn ei hawl ei hun.


 Sut gellir defnyddio’r grant?


Yn fwriadol, mae meini prawf y grant yn amhenodol, er mwyn gallu ystyried ystod eang o weithgareddau. Mor bell y gall y grŵp ddangos yr effaith ar y gymuned, a sut bydd y cyllid yn helpu eu cynnal nhw fel grŵp neu eu gweithgaredd, byddwn yn ystyried eu cais.

Gellir defnyddio’r grant i gyflenwi prosiectau sy’n gysylltiedig â Coronafeirws ai peidio; gall fod ar gyfer gwaith ieuenctid, gwasanaethau iechyd meddwl, prosiectau celf, cefnogi’r henoed, gwasanaeth cwnsela, trais domestig, prosiectau BAME, addysg, cymorth ym maes anabledd, grymuso ar lefel leol - enghreifftiau’n unig yw’r rhain. Nid oes rhaid gwario’r arian ar gostau prosiect, gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau rhedeg, gan gynnwys staff, biliau, rhent neu waith cynnal a chadw mor bell y gellir dangos nad yw’n bosib talu’r costau hyn trwy ddull arall, ac y bydd yn helpu’r sefydliad aros yn weithgar ac yn gynaliadwy.


 Sut byddwn yn asesu ceisiadau grant? 


Gan taw swm neilltuol o arian sydd ar gael, bydd panel yn asesu ceisiadau gan ddefnyddio system sgorio ar ôl y dyddiad cau; ac os oes mwy o geisiadau addas na’r cyllid sydd ar gael, byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gyda sgôr uwch. Hefyd, byddem yn hoffi sicrhau y caiff y cyllid ei rannu’n deg ar hyd y rheilffordd, felly byddwn yn ystyried hyn hefyd. Byddwn yn rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus, a hwyrach y byddwn yn gallu cynnig cymorth amgen os bydd yn briodol. Os nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r gronfa sydd ar gael, byddwn yn agor ail gyfle i ymgeisio. Ni ddylai sefydliadau wneud cais am fwy o arian na’r hyn sydd ei angen arnynt, er mwyn inni sicrhau fod cyllid ar gael i gymaint o grwpiau ag sy’n bosib. Bydd cais sy’n cynnwys manylion llawn y costau arfaethedig yn fwy tebygol o lwyddo.


Bydd y panel yn cynnwys rhai o aelodau’r Bwrdd, ynghyd â chynrychiolwyr y sector gwirfoddol o’r pedair sir dan sylw, a bydd y broses yn cael ei gweinyddu gan PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys).


Er mwyn cael y siawns gorau posib o lwyddo, gofalwch eich bod yn bodloni’r canlynol

  •  Lleoliad o fewn 10km /6 milltir i orsaf Rheilffordd Calon Cymru, neu dystiolaeth y bydd cymuned o
  • fewn y pellter yma’n elwa
  •  Y math iawn o sefydliad
  •  Mae gennych gyfrif banc neu debyg
  •  Rydych wedi dangos effaith gadarnhaol ar y gymuned
  •  Rydych wedi dangos sut bydd y grant yn helpu cynnal y sefydliad neu weithgaredd
  •  Rydych wedi dangos nad yw’n bosib bodloni’r holl gostau trwy ddull arall
  •  Mae’r cais yn cynnwys manylion llawn y costau
  •  Rydych wedi dangos hanes blaenorol o gyflenwi prosiectau
  •  Rydych wedi amgáu’r holl ddogfennau angenrheidiol
  •  Rydych wedi ateb yr holl gwestiynau mewn ffordd briodol
  •  Rydych wedi llofnodi yn unol â’r gofynion, ac yn cytuno â’r holl ddatganiadau

 Amserlen


10fed Gorffennaf 2020 Lansio’r Gronfa
21ain Awst 2020 Dyddiad cau i dderbyn Ceisiadau
Medi 2020 Asesu Ceisiadau
Medi 2020 Hysbysu Grwpiau o’r canlyniad
26ain Chwefror 2021 Diwedd y prosiect
19eg Mawrth 2021 Darparu gwerthusiad a thystiolaeth
16eg Ebrill 2021 Cyhoeddi Adroddiad effaith

 Ble mae gorsafoedd Rheilffordd Calon Cymru?


O’r gogledd i’r de maent fel a ganlyn: Yr Amwythig, Church Stretton, Craven Arms, Broome, Hopton Heath, Bucknell, Tref-y-clawdd, Cnwclas, Llangunllo, Llanbister Rd, Dolau, Pen-y-Bont, Llandrindod, Cwm-bach Llechryd, Cilmeri, Garth, Llangammarch, Llanwrtyd, Dinas-y-bwlch, Cynghordy, Llanymddyfri, Llanwrda, Llangadog, Llandeilo, Ffairfach, Llandybie, Rhydaman, Pantyffynnon, Pontarddulais, Llangennech, Y Bynie, Llanelli, Tregŵyr ac Abertawe.


Hefyd gall grwpiau o leoliadau eraill o fewn 6milltir/10k i’r orsaf wneud cais am gyllid.


 Arian Cyfatebol


Nid yw’n ofynnol cael arian cyfatebol fel un o amodau’r grant, a bydd sefydliadau’n gallu defnyddio’r grant ar y cyd â chyllid arall er mwyn cyflenwi prosiect neu i wireddu cynllun. Os taw dyma’r achos, bydd angen i’r broses monitro a’r adroddiad effaith ddangos hyn, a gellir hawlio cyfran o’r cyfanswm yn unig (ni chaniateir cyfrif cyllid dwywaith).


 Pa fath o broses monitro fydd ei hangen?


Os byddwch yn llwyddo i ennill grant, bydd nifer o anghenion monitro’n berthnasol. Er enghraifft, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o sut y gwariwyd y cyllid a gallu disgrifio effaith y grant, gan gynnwys nifer y bobl a effeithiwyd ac unrhyw adborth a dderbyniwyd. Byddwn yn croesawu lluniau mor bell â’ch bod wedi cael caniatâd unrhyw unigolion yn y lluniau.

 Cyhoeddusrwydd


Bydd Cwmni Datblygu Rheilffordd Calon Cymru yn awyddus i sicrhau cyhoeddusrwydd o ran effaith gadarnhaol y gronfa, felly byddwn yn gofyn i sefydliadau sy’n derbyn grantiau roi caniatâd er mwyn inni ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd at ddiben cyhoeddusrwydd lleol, ar y wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol. Hwyrach y bydd y partneriaid a restrir ar waelod y ffurflen hefyd am wneud yr un peth. Os oes rhesymau priodol dros beidio ceisio cyhoeddusrwydd mewn perthynas â’r grant, byddwn yn ystyried hyn.


 Oes cefnogaeth ar gael i gyflwyno cais?


Gall unrhyw grŵp fynd at y CGS lleol (gweler y rhagarweiniad) i gael cefnogaeth wrth lenwi ceisiadau.
Os hoffech ofyn cwestiynau am y gronfa ei hun, croeso ichi gysylltu â: funding(at)devco.org.uk

Mae’r gronfa hon ar gael diolch i gefnogaeth y sefydliadau canlynol.

 

Cliciwch yma i gael mynediad i'ch ffurflen gais & Canllawiau
 
Mae’r gronfa hon ar gael diolch i gefnogaeth y sefydliadau canlynol:
  • Heart Of Wales Line
  • Carmartnenshire Association of Voluntary Services
  • Powys Association of Voluntary Organisations
  • Swansea Council for Voluntary Service
  • Shropshire RCC
  • Transport For Wales

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity