Cronfa Datblygu’r Fforwm Gwerth Cymdeithasol 2022/23

Rownd 2 ar agor!

Nod Cronfa Datblygu’r Fforwm Gwerth Cymdeithasol yw cyllido gwasanaethau a gweithgareddau ataliol y sector gwerth cymdeithasol, boed yn rhai newydd neu er mwyn ymestyn eraill, sy’n llenwi ac yn pontio bylchau mewn darpariaeth gyfredol sy’n gwella llesiant meddyliol a chorfforol, yn helpu unigolion i fyw bywyd annibynnol, gyda’r nod o leihau’r angen ar gyfer ymyriadau lefel uwch.  Mae’r cyllid ar gael trwy Fforwm Gwerth Cymdeithasol gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

  • Cyfanswm gwerth y gronfa yw tua £40,000; ni osodwyd unrhyw gyfyngiadau ar y swm y gellir gwneud cais amdano, oherwydd bydd y panel yn gwneud eu penderfyniadau ar sail defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael
  • Mae’r gronfa ar gael ar gyfer costau refeniw’n unig.
  • Mae’n rhaid gwario’r cyllid erbyn 31ain Mawrth 2023
  • Diben y cyllid yw ysgogi gwasanaeth newydd neu estynedig; mae angen i geisiadau nodi’r glir sut y bydd y gwasanaeth/gweithgaredd yn parhau ar ôl 31ain Mawrth 2023
  • Fel rhan o’r cyllid, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i weithio gyda Swyddog Cynnig Rhagweithiol PAVO.
  • Bydd pob ymgeisydd, boed yn llwyddiannus neu fel arall, yn cael y cyfle i dderbyn cefnogaeth gan Swyddog Datblygu PAVO.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 5yp Dydd Mercher 31ain Awst 2022

Blaenoriaethau

Nodwyd y bylchau canlynol gan Gysylltwyr Cymunedol PAVO a chaiff Gwasanaethau Statudol eu blaenoriaethu, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Darparu Cynlluniau Cymdogion Da yn cynnig cymorth ymarferol lefel isel i bobl. (Anogir cydweithrediad â menter bancio amser Amser i Ni)
  • Cryfhau’r ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol, gyda ffocws arbennig ar drafnidiaeth i bobl ifanc a phobl sy’n byw ag anableddau.
  • Darparu cynlluniau cyfeillion i bobl ifanc.
  • Uchafu ac annog darpariaeth rhwng cenedlaethau lle bo'n briodol.

Gellir dod o hyd i'r ffurflen gais yma

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity