Rydym nawr wedi datblygu’r ymgyrch ymhellach ac wedi creu asedau y gellir eu hychwanegu’n hawdd at wefannau, sianeli cymdeithasol ac yn y blaen.
Mae hashnod wedi’i greu ar gyfer yr ymgyrch, #GartrefGydanGilydd, i rannu cyngor, cymorth ac ysbrydoliaeth ar gyfer sut i fod yn gefn i unigolion ac eraill yn ddiogel yn eu cartrefi. Y nod yw creu cymuned i arddangos Cymru ar ei gorau.
Rydym yn gofyn i bobl ar ein sianeli cymdeithasol greu fideo byr, i ysbrydoli a helpu pobl eraill drwy ddangos y pethau maent yn bwriadu eu gwneud gartref. Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cymorth i rannu’r neges hon ymysg eich partneriaid.
Dylid tagio fideos i: @LlC_Cymunedau a defnyddio #GartrefGydanGilydd
Dylid tagio fideos i: @lookingoutforeachothersafely a defnyddio #GartrefGydanGilydd
Os nad ydych eisoes wedi gwneud, cofiwch ddilyn ein sianeli Twitter a Facebook a chyfeirio pobl at wefan ein hymgyrch sy’n egluro sut y gall pobl ofalu amdanynt eu hunain a’i gilydd yn ddiogel.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni drwy e-bostio: EPS.Comms-Communities(at)llyw.cymru