Comisiynydd Pobl Hŷn - Galwad am Straeon y Gaeaf

Wrth i ni nesáu at aeaf anarferol iawn a allai fod yn anodd i bob un ohonom, hoffai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wneud yn siŵr bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, a bod modd eu defnyddio i sicrhau newid a gwelliannau.

Straeon y Gaeaf

 

Wrth i ni nesáu at aeaf anarferol iawn a allai fod yn anodd i bob un ohonom, hoffai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wneud yn siŵr bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, a bod modd eu defnyddio i sicrhau newid a gwelliannau.

Mae’r Comisiynydd yn chwilio am bobl hŷn i weithio gyda hi dros y misoedd nesaf a rhannu eu straeon personol am sut beth yw eu bywydau yn ystod y gaeaf - am y cynlluniau a’r camau mae pobl hŷn yn eu rhoi ar waith i’w helpu i ymdopi â’r misoedd nesaf, beth sy’n dda neu beth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, ac am y pethau a allai fod yn gwneud bywyd yn anoddach. 

Bydd hyn yn helpu mewn dwy ffordd bwysig:

  • Helpu i ddeall yr anawsterau a’r heriau mae pobl hŷn yn eu hwynebu mewn ‘amser real’ er mwyn i ni allu adnabod materion penodol yn gyflym a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd.
  • Darparu sylfaen dystiolaeth rymus sy’n dangos lle mae angen gwelliannau, er mwyn i ni allu dylanwadu ar gynlluniau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill yng Nghymru.

 

Mae’r Comisiynydd yn gobeithio’n fawr y byddwch chi’n awyddus i gymryd rhan a rhannu eich stori gaeaf i gefnogi’r gwaith pwysig hwn. Rydyn ni’n croesawu cyfraniadau Cymraeg a Saesneg.

Os oes gennych chi ddiddordeb ac am wybod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch 03442 640670 neu anfonwch e-bost at winterstories(at)olderpeoplewales.com

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity