Mae Cymru angen datblygu sefydliadau sy’n gweithio er lles ei holl ddinasyddion.
Mae Mark Hooper yn arwain prosiect i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru ac i Gymru, fydd dan berchnogaeth gydweithredol.
Bydd trafodaeth am y gwahaniaeth y gallai Banc Cambria wneud o ran bancio lleol, ymgysylltu cymunedol a chefnogi busnesau bychain. Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno gan Mick Antoniw MS/AS, aelod Llafur a Chydweithredol y Senedd dros Bontypridd.
I ymuno:
Cliciwch y linc a nodi eich manylion a’r digwyddiadau sydd o ddiddordeb (Ar unwaith o.g.dd. ac erbyn 18 Medi fan bellaf) Bydd gwahoddiad digidol a chyfarwyddiadau pellach yn cael hanfon atoch. https://bit.ly/2QulHZG
Mae’r digwyddiad hefyd yn ran o ‘Ysgol haf bach Mihangel’ Addysg Oedolion Cymru |Adult Learning Wales sy’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau digidol mewn cydweithrediad â phartneriaid ac aelodau cefnogol (manylion isod). Mae hefyd yn cyd-fynd gydag’r Wythnos Addysg Oedolion Ddigidol.
Iaith: Mae iaith y cyflwyniadau wedi eu nodi. Mae croeso fodd-bynnag i chi gyfrannu yn y Gymraeg i’r holl ddigwyddiadau a byddwn yn hwyluso cyfieithiad os oes angen.
Cyswllt: david(at)cooperatives-wales.coop