Chwilotwr cyllid am ddim i sector gwirfoddol Cymru
Bydd Cyllido Cymru yn cynorthwyo i gysylltu elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru â’r cyllid sydd ei angen arnynt.
Mae Cyllido Cymru yn declyn am ddim i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol i ddod o hyd i gyllid i’w hachos.
Mae’r wefan, a grëwyd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn galluogi elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i ddod o hyd i gyllid trwy ddefnyddio chwilotwr ar-lein rhad ac am ddim.
Gallwch chwilio trwy gannoedd o gyfleoedd cyllid grant neu fenthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o grantiau bychain i brosiectau cyfalaf mawrion.
I fanteisio ar y chwilotwr cyllid, cofrestrwch gyda cyllido cymru Mae Cyllido Cymru yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Ynglŷn â Cefnogi Trydydd Sector Cymru
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r holl drydydd sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW). Mae’r rhwydwaith yn cynnwys y 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae TSSW yn gwella’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau’n ddigidol, ac yn ymrwymedig i sicrhau bod ei blatfformau digidol yn gynhwysol ac yn ddwyieithog.
Mae platfformau digidol eraill TSSW yn cynnwys:
Mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael mynediad hawdd at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein.
Gall mudiadau gofrestru am ddim i gael mynediad at gronfa o daflenni gwybodaeth a chyrsiau hyfforddi ar-lein o ansawdd uchel sydd wedi’u llunio ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi’r cyfle i chi rwydweithio â chymheiriaid a chael trafodaethau ar bynciau sydd o bwys i chi.
infoengine yw’r cyfeiriadur o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru. Mae infoengine yn amlygu amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Platfform gwirfoddoli digidol yw Gwirfoddoli Cymru. Ar y platfform hwn, mae cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli o bob rhan o Gymru mewn un lle, sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i wirfoddolwyr a’u recriwtio – neu i ddechrau ar eich taith wirfoddoli eich hun.