Canolbarth Cymru’n cefnogi COP26 a COP Cymru

Cynhelir pedwar o ddigwyddiadau rhanbarthol COP26 yng Nghymru fel rhan o COP Cymru i gefnogi Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd COP26 yn Glasgow.

Mae COP Cymru yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i randdeiliaid a phawb yng Nghymru i fod yn rhan o sgyrsiau pwysig am newid hinsawdd gan ddechrau gyda lansio Cynllun Sero Net Cymru heddiw (28 Hydref) lle bydd Gweinidogion yn cyflwyno cam nesaf Llwybr Cymru (2021 tan 2025) i sero net erbyn 2050.

Bydd y digwyddiadau rhanbarthol, sy’n cynnwys un yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, yn cyd-fynd â dyddiadau a themâu digwyddiad Glasgow gan ddarlledu i gynulleidfa rithiol.

Bydd cynnwys y pedwar digwyddiad yn cael ei lunio gan bobl o bob cwr o Gymru gan dynnu sylw at enghreifftiau perthnasol o arferion da ac yn sicrhau fod cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig ar themâu allweddol COP.

Canolbarth Cymru fydd cartref y digwyddiad Byd Natur ddydd Sadwrn 6 Tachwedd.  Bydd hwn yn ddigwyddiad rhithiol ac yn cael ei ddarlledu’n fyw o Ganolfan Gynadledda Technoleg CAT gan ddangos prosiectau o bob cwr o Gymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyflwyniad gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, a bydd yn gyfres o gyflwyniadau byr, trafodaethau panel ac astudiaethau achos o brosiectau ym Mhowys. Bydd y prosiectau dan sylw’n cynnwys Cartrefi o Bren Lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn a Phartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon.

I fynychu un o’r rhain, bydd angen i chi gofrestru ar borth rhithiol COP Cymru, dyma’r ddolen:Porth Digwyddiadau COP Cymru

Yna gallwch gofrestru ar gyfer y gwahanol ddigwyddiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys:

  • Newid Ynni (4 Tachwedd) – yng Ngogledd Cymru
  • Byd Natur (6 Tachwedd) – yng Nghanolbarth Cymru
  • Addasu a Chydnerthedd (8 Tachwedd) – yn Ne-orllewin Cymru)
  • Cludiant Glân (10 Tachwedd) – yn Ne-ddwyrain Cymru.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity