Lansiwyd arolwg ar-lein gan Raglen Lles Gogledd Powys yn gofyn am adborth ar syniadau cynnar am ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau llyfrgell, tai â chymorth, mannau lles a rennir yn y gymuned ac academi iechyd a gofal, at ei gilydd yn ogystal â’r cynlluniau am adeilad newydd i Ysgol Calon y Dderwen yng nghanol y dref.
Arweinir y rhaglen gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys dan y faner Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys gyda chymorth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.
Cyn y pandemig, cynhaliwyd llawer o ymgysylltu gan y tîm i ddod o hyd i’r hyn a oedd yn bwysig i bobl yn sgil eu hiechyd a lles. Gwrandawodd y tîm, ac fel rhan o hynny, yn datblygu syniadau cynnar ar sut i ddod â mwy o wasanaethau at ei gilydd ar y safle.
Mae Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad y bwrdd iechyd, yn Uwch Swyddog ar y cyd o’r rhaglen (gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol y cyngor sy’n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol, Ali Bulman). Ychwanegodd Ms Thomas “Un o’r buddion posibl o’r rhaglen hon fydd y gallu i gynnig fwy o ddiagnosteg a thriniaethau iechyd o fewn y Drenewydd, a fydd i rai, yn lleihau’r angen i deithio er enghraifft i’r Amwythig.”
Yn ddibynnol bod y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael, gobeithir y bydd y campws yn gweithredu yn 2026, ond rhagwelir y bydd adeilad newydd yr ysgol yn barod cyn y dyddiad hwn. Os ddatblygir, bydd prosiect y campws y gweld buddsoddiad sylweddol pellach yn y Drenewydd, yn dilyn y £95m ar gyfer y ffordd osgoi, y cynnig arfaethedig ar gyfer Ysgol Cedewain ac Agoriad lleoliad ar lan yr afon gyntaf y Drenewydd.
Pwysleisiodd Ms Thomas nid yw’r rhaglen am y Drenewydd yn unig. “Rydym yn edrych i ddatblygu gwelliannau yn ofal a lles ledled gogledd Powys. Mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn ariannu nifer o brosiectau ‘llwyddiannau sydyn’, megis cefnogi hwyluswyr digidol i helpu pobl ifanc fynychu apwyntiadau iechyd ar-lein a chynnig ffynonellau i wella’r gwasanaethau offthalmoleg ac anadlu ledled yr ardal.”
Mae Cynghorydd Cyngor Sir Powys Myfanwy Alexander yn Gadeirydd o Grŵp Goruchwylio’r Rhaglen. Meddai: ‘Rydym yn edrych i gyflwyno gwell iechyd i’n preswylwyr mewn ffyrdd newydd ac rydym am weithio gyda’n gilydd gydag unigolion a sefydliadau i sicrhau ein bod yn arwain y prosiect cyffrous yma i gyflwyno’r buddion mwyaf i’n cymunedau.’
Mae’r arolwg ar-lein ar gael ar www.dweudeichdweudpowys.cymru/cynlluniau-cynnar-ar-gyfer-campws-lles-amlasiantaeth-yn-y-drenewydda (neu www.powyswellbeing.wales) fydd ar gael tan ganol nos ar Ragfyr 12fed. Bydd copïau papur ar gael yn fuan o lyfrgelloedd y cyngor yng ngogledd Powys neu drwy powyswellbeing.north(at)wales.nhs.uk neu drwy ffonio 07792 129677.
Nid y cyfle olaf i bobl lleisio’u barn fydd yr arolwg hwn. Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd wrth i’r prosiect ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod