Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau.

Mae busnesau a sefydliadau dros Canolbarth Cymru yn cael eu hannog i lenwi arolwg ar gyflogaeth a sgiliau.

Yn 2019, lansiodd y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Gynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd sydd wedi cael eu defnyddio i siapio blaenoriaethau sgiliau i gyflogwyr ar draws rhanbarthau perthnasol a dylanwadu ar y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig drwy sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer  Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yng Nghyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd David Selby, yr Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus yng Nghyngor Sir Powys, sy'n cynrychioli Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru:  “Dros y tair blynedd diwethaf, cafwyd newid sylweddol i’r sgiliau sy’n ofynnol gan ddiwydiant i lywio eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-bandemig.

“Mae’n bwysicach nac erioed ein bod ni’n sicrhau fod pobl yn meithrin y sgiliau cywir mewn colegau, prifysgolion a prentisiaethau.

“Rydym yn annog pob busnes a sefydliad ar draws y rhanbarth i lenwi’r arolwg cyflogaeth a sgiliau i helpu i lywio ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd ar gyfer 2022-2025."

Lansiwyd arolwg rhanbarth Canolbarth Cymru heddiw (dydd Llun 25 Gorffennaf) ac mae'n rhedeg tan ddydd Sul 14 Awst.

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cyflogaeth-a-sgiliau

Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y tirlun sgiliau ar draws y rhanbarth a chysylltu cyllid sgiliau â'r galw gan gyflogwyr.

Gwahoddir busnesau/sefydliadau mewn rhanbarthau eraill i lenwi eu harolwg sgiliau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol lleol:

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity