Arolwg Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad

Crëwyd yr arolwg canlynol i gasglu eich barn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Powys (MSR) ar ddigonolrwydd a sefydlogrwydd darpariaeth nad yw'n cael ei rheoleiddio ym Mhowys e.e. y gwasanaethau 'camu i lawr' ac atal y mae trydydd sector Powys yn eu darparu’n helaeth.

Dyma'ch cyfle i fwydo eich profiadau, eich mewnwelediadau a'ch gwybodaeth eich hun i MSR Powys a helpu i sicrhau bod MSR Powys yn cyfleu ehangder sefydliadau'r trydydd sector a’r sefydliadau gwerth cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau gofal, ynghyd ag unrhyw heriau sy'n effeithio ar eu sefydlogrwydd a'u cynaliadwyedd.

Prif ffocws y Cynllun fydd asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y gofal a'r cymorth a ddarperir ar gyfer darpariaeth a reoleiddir; ac unrhyw fater arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau a reoleiddir. Fodd bynnag, er bod llawer o'r gwaith yn canolbwyntio ar y gwasanaethau gofal a chymorth a reoleiddir, gan gynnwys rhai gwasanaethau trydydd sector dan gontract, mae'r MSR hefyd yn cydnabod y rôl allweddol sy’n cael ei chwarae gan sefydliadau a mentrau gwerth cymdeithasol.

Yn benodol, bydd yr MSR yn archwilio:

  • sut y mae'r mathau hyn o wasanaethau yn diwallu anghenion unigolion am ofal a/neu gymorth;
  • yr effaith ar ddarpariaeth y gwasanaethau a reoleiddir;
  • sut y mae ffurf y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir yn effeithio ar agweddau eraill ar y ddarpariaeth gofal a chymorth.

Gallwch chi gwblhau'r arolwg cyflym yma

 www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-adroddiad-sefydlogrwydd-y-farchnad

Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Mawrth 31 Mai 2022

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, cysylltwch â mewnflwch Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn uniongyrchol prpb(at)powys.gov.uk

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity