15 - 19 Tachwedd 2021
Ar-lein
Hyderwn y byddwch yn gallu bod gyda ni ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol a'n Cyfarfod Cyffredinol eleni. Yn seiliedig ar adborth gan aelod-sefydliadau, bydd yr wythnos yn rhoi cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithdai ar bynciau sy'n bwysig i chi fel::
Adeiladau Cymunedol a Neuaddau Pentref
Cysylltu Cymunedol / Rhagnodi Cymdeithasol
Mynd i'r afael ar Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol
Anghenion Hyfforddi a Datblygu yn y Trydydd Sector
Partneriaethau Powys a Sut i Gymryd Rhan
Bydd yr wythnos yn dod i ben yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 9.30am ddydd Gwener 19eg Tachwedd
Bydd gwahoddiadau yn dilyn maes o law.
Lledaenwch y wybodaeth hon trwy eich sefydliad a thrwy eich rhwydweithiau, os gwelwch yn dda