Cafodd Ap Covid-19 y GIG ei lansio gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU (AIGC) ar 24 Medi 2020. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr ap a sut i’w lawrlwytho yma: https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig.
Bydd yr ap yn cael ei ddefnyddio, ynghyd â dulliau olrhain traddodiadol, i hysbysu defnyddwyr os ydynt yn dod i gysylltiad â rhywun sydd wedyn yn profi’n gadarnhaol am coronafeirws.
Mae AIGC wedi asesu effaith yr Ap Profi ac Olrhain. Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn awyddus i gasglu gwybodaeth gan bobl yng Nghymru er mwyn ystyried unrhyw welliannau all fod angen eu gwneud, a byddwn wedyn yn trafod hyn gyda’n cydweithwyr yn AIGC.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn unrhyw wybodaeth/data perthnasol a’ch sylwadau o’ch profiad eich hunain am effeithiau cadarnhaol a negyddol ar:
- bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol)
- hawliau plant a phobl ifanc
- y sawl sy’n dioddef allgau economaidd-gymdeithasol
- siaradwyr Cymraeg a’r Gymrae
Byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon eich ymatebion at Helen.Fresse(at)llyw.cymru erbyn 5yh ar y 9fed o Dachwedd 2020. Os na allwch gwrdd â’r dyddiad yma neu os oes gennych unrhyw sylwadau ar ôl yr amser hwn, mae croeso i chi eu pasio ymlaen gan y bydd yr ap yn cael ei adolygu yn rheolaidd.
Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os oes unrhywbeth y gallwn ei wneud i hwyluso eich cyfraniad.
Mae croeso i chi gysylltu gyda ni yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi.
Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd os ydych am dderbyn y wybodaeth yma mewn fformat arall.