Ffurfiwyd Grŵp Angylion Cymunedol y Trallwng gan y Cynghorydd Sir Graham Breeze, Parch Steve Willson ar ran Eglwysi Trallwng, Cynghorydd Tref y Trallwng Nicola Morris a Chlerc Dros Dro y Cyngor Tref, Anne Wilson, gyda John Morgan yn ymuno â'r grŵp i ddarparu cefnogaeth gwefan. Mae'r grŵp hefyd yn gweithio'n agos gyda Chysylltwyr Cymunedol PAVO a'r Groes Goch.
Ar ddiwedd mis Mawrth, lansiodd y grŵp tudalen Facebook ac roedd galw ar wirfoddolwyr i ddod ymlaen i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sydd yn ynysu yn ardal Y Trallwng yn ystod y pandemig Covid-19 . Bellach mae ganddyn nhw dros 115 o wirfoddolwyr ar eu rhestr. Fe wnaethant ddosbarthu taflenni am eu cynnig i gynifer o breswylwyr â phosibl. Gall aelodau o'r gymuned sydd angen cefnogaeth cysylltu ag un o'r tîm gweinyddol sydd wedyn yn dyrannu gwirfoddolwyr i’w hymateb. Mae'r mwyafrif o geisiadau am anghenion siopa neu ar gyfer casglu presgripsiynau.
Gweithgaredd mawr arall i'r tîm fu cynorthwyo'r Cyngor Tref gyda'r gwasanaeth Pryd ar Glud a weithredir o Ganolfan Ddydd Ann Holloway. Gwnaeth y grŵp gais llwyddiannus i'r Gronfa Argyfwng C-sert, fel eu bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i fwy o bobl. Mewn cyfnod byr o amser mae'r gwasanaeth wedi tyfu o oddeutu 8-10 pryd bwyd y dydd i bron i 50.
Dywedodd y Cynghorydd Breeze, “Mae busnesau ac unigolion lleol hefyd wedi rhoi swm sylweddol o arian yn hael iawn i gefnogi ac ehangu'r gwasanaeth hwn, rydym i gyd yn hynod ddiolchgar. Mae llawer o'r nwyddau ychwanegol fel Wyau Pasg, cacennau a bisgedi yn cael eu darparu fel bagiau nwyddau ochr yn ochr â'r prydau bob dydd ac rydym yn datblygu system o ddarparu trîts i bawb sy'n ynysu yn y dref."
Mae Tîm Ymateb Argyfwng Sector Cymunedol Powys (C-SERT) a PAVO wedi cydweithio i ddosbarthu grantiau bach i gefnogi cymunedau yn eu hymateb i’r argyfwng Covid-19. Daw cefnogaeth ariannol y Gronfa Argyfwng C-SERT o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (ICF), a ddyrannwyd gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB).